 |  |  | Cadeirydd newydd y Cyngor Gorffennaf 2002 Mae cadeirydd newydd Cyngor Bwrdeistrefol Caerffili yn wyneb cyfarwydd i lawer sydd wedi bod yn ymwneud â diwylliant ac Addysg Gymraeg Cwm Rhymni. |  |  |
 | Ganwyd Mr Kevin Viney yn niwedd y 1940au yn Nhredegar ac fe'i magwyd yn Phillipstown lle cafodd y fraint o brofi cymdogaeth gynnes a gofalus.
Derbyniodd ei addysg yn Phillipstown ac yn Ysgol Lewis i Fechgyn, cyn graddio mewn peirianneg ym Mhrifysgol Birmingham.
Bu'n gweithio i British Steel yng Nglyn Ebwy a Chaerdydd hyd at 1981 pan gollodd ei waith ynghyd â 50,000 eraill.
Derbyniodd hyfforddiant mewn cyfrifiaduraeth ac am 15 mlynedd bu'n gweithio i Telecom Prydain ond collodd ei waith eto.
Ers pum mlynedd bu'n ymgynghorydd cyfrifiadurol er y bydd yn ceisio gwneud llai o waith tra bydd yn llenwi cadair y Cyngor.
Bu'n llywodraethwr Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod am 15 mlynedd ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni am 12 mlynedd.
Bu'n cydarwain cangen yr Urdd yn y Bargod gyda Mrs Gwyneth Davies am 15 mlynedd hyd at 1998, ac mae'n drysorydd cangen Young at Heart Cwm Rhymni, sef man cyfarfod y sawl sydd dros 50 oed ym Margod a'r ardal. Mae hefyd yn gynghorydd Cyngor Tref Bargod.
Bu'n briod gyda Marian ers 30 mlynedd ac mae ganddyn nhw dri phlentyn, sef Sara sy'n gweithio i BT yn Ipswich, Dafydd sy'n gweithio gyda'r digartref yn Llundain a Rhodri sy'n dilyn gyrfa fel canwr yng Nghaerdydd.
Pan fydd ganddo amser mae wrth ei fodd yn gwylio rygbi, gwrando ar gerddoriaeth ac arwain tîm cwis yng Nghlwb Cymdeithasol y Bargod. Dywed nad ydyn nhw yn ennill am eu bod yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio.
Dymunwn yn dda iddo yn ystod blwyddyn ei gadeiryddiaeth.
 |  |  |  |
| 
|