Cyn hynny roedd Mrs Darkins wedi croesawu'r gwahoddedigion ynghyd â chyflwyno'r cyn brifathro Mr Huw Thomas, ac fe amlinellodd yntau hanes yr ymgyrchu gan nodi fod yr ysgol wedi ceisio diogelu'r ethos a fyddai yn cael ei nodweddu gan ffydd, gobaith a chariad.Cyflwynodd cerddorfa'r Ysgol, o dan arweiniad Ms Odette Jones, ffanffer i groesawu'r prif wahoddedigion, ac yn ystod y cyfarfod cafwyd eitemau gan y côr iau a oedd yn cynnwys gwaith gwreiddiol gan Euros Rhys Evans ar eiriau Rhys Nicholas.
Bu cyfraniadau llafar Mr Hefin Mathias, (prifathro);Mr Lindsay Whittle, (Arweinydd Cyngor Bwrdeistrefol Caerffili); Mr Philip Bevan (Cadeirydd y Llywodraethwyr) a Mr Chris Pratt,(Cynrychiolydd Consortiwm Machrie,) yn ddifyr a dadlennol, ac roedd hi'n hyfryd clywed cadarnhad Mrs Hart yn llawenhau yn y ddarpariaeth sydd bellach ar gyfer disgyblion yr ysgol a'r gymuned amgenach.
Efallai mai un o'r brawddegau mwyaf gafaelgar oedd clywed y prifathro yn dyfynnu llythyr oddi wrth un o gyn ddisgyblion yr ysgol, sef Llinos Madeley, sydd ar hyn o bryd yn fyfyrwraig yn Rhydychen.
Llythyr cyn ddisgybl
Fe ddywedodd ei bod yng nghanol llawer o arwyddion cyfoeth, ond nad oedd yno ddim i'w gymharu gyda'r cyfoeth a gafodd yn derbyn addysg a iaith yn Ysgol Cwm Rhymni.
Ymfalchïodd Lindsay Whittle ei fod yn rhan o lywodraeth leol a oedd am ymwrthod â safonau eilradd, ac yn hawlio nad oedd y gorau yn ddigon da i blant y cwm.
Roedd hi'n hyfryd gweld llu o gyfeillion yr ysgol yn bresennol, yn cynrychioli yr arloeswyr cynnar, prifathrawon a chyn brifathrawon yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, llywodraethwyr a chyn lywodraethwyr yr Ysgol, cynrychiolaeth o blith y sawl a fu' n weithgar ar Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, prifathrawon Ysgolion Uwchradd Cymraeg eraill yn Ne Cymru, aelodau'r Awdurdod Lleol, yr Aelod Seneddol, cyn ddisgyblion a disgyblion presennol yr ysgol a chynrychiolaeth o gwmni.
Cafodd pawb eu croesawu gan offerynwyr ifanc yr ysgol yn y brif fynedfa, ac fe fwynhawyd cyflwyniad tafod yn y foch gan rai o ddisgyblion y chweched dosbarth. Dyma oedd cyfle cyntaf llawer i weld yr adeilad, ac fe drefnwyd taith o gwmpas yr ysgol ar gyfer yr ymwelwyr.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, mwynhawyd bwffe hyfryd, gyda chyfle i bawb gymdeithasu'n hamddenol, tra roedd nifer o'r disgyblion yn diddanu gyda darnau clasurol, jazz a phoblogaidd ar yr offerynnau cerdd.
Prin bod geiriau yn addas i gyfleu'r profiad o weld adeilad o safon gyda phob hwylustod posibl. Roedd pawb a welodd yr adeilad yn llawn rhyfeddod, gwerthfawrogiad, ac eiddigedd. Brysied y dydd y caiff pob ysgol cynradd ac uwchradd, adnoddau o'r safon yma.