Dyma'r ddegawd a roddodd i ni MC Hammer, y Tennage Mutant Ninja Turtles, y Rubik's cube ac wrth gwrs Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Cafwyd gwledd o actio, dawnsio a chanu a hanner cant o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 13 wrth eu boddau yn perfformio. Gwerthwyd pob un o'r 750 o docynnau a phobl yn ymladd am y tocynnau olaf. Roedd perfformiad pob unigolyn yn gaboledig ond yn sicr fe erys rhai golygfeydd yn y cof megis doniolwch
Christopher Fussell a Sara Chojnacki a oedd yn actio Fergal ac Eileen, y gân Glory of Love gan y bechgyn Alex Gibbey, Jobe Bruzas, Lloyd Evans, Ben Price, Chris Fussell a Gethin Evans, dawnsio ysgubol Bethan Daniel a'i phartner Liam Hallinan ac unawd Aimee Morgan i'r gân Total Eclipse of the Heart, i enwi ond ychydig. Dyma oedd pinacl dathliadau 25 mlynedd yr ysgol. Dymunwn ddiolch i'r holl athrawon am eu gwaith canmoladwy a diflino yn paratoi'r plant, ymroddiad ac aeddfedrwydd y disgyblion a'r gynulleidfa am eu cefnogaeth parod. Edrychwn ymlaen at y sioe nesaf yn 2008! Os dymuna unrhyw un brynu DVD o'r sioe, anfonwch £10 yn daladwy i'r ysgol at sylw Pennaeth yr Adran Ddrama, Mrs Catrin Roberts.
 |