Efallai mai'r maes mwyaf toreithiog a, hwyrach, mwyaf proffidiol yn y Wasg Gymraeg ers rhai blynyddoedd yw ysgrifennu hunan gofiannau.
Y mwyaf blaengar yn y maes mae'r gyfres "Bro a Bywyd" bellach dan ofal Cyhoeddiadau Barddas. Yn y 21ain mlynedd ers 1981, cyhoeddwyd 23 teitl a'r diweddaraf yw Bro a Bywyd y Prifardd Rhydrwn Williams dan olygyddiaeth Emyr Edwards. Mae adolygiad trylwyr o hon, yn cynnwys un neu ddau o gywiriadau, gan Dafvdd Islwyn yn y rhifyn cvfredol o Barddas.
Y brif gyfres arafl yn niwydiant yr hunangofiannau yw honno a gynhyrchwyd gan Wasg Gwynedd dan y teitl Cyfres y Cewri ers yr un gyntaf am Dafydd Iwan. Y diweddaraf i mi ei ddarllen yw hanes Stewart Whyte McEwan Jones, Dwin Deud Dim, Deud ydw i... (2001)Stori anhygoel yw am Sgotyn a fabwysiadwyd gan deulu ym Mhenllyn ac a dyfodd i fod yn Gymro gloyw ac yn actor o'r radd uchaf. Fel ymhob un o'r cyfrolau, diddorol yw darllen am gydnabod y gwrthrych megis, Wil Sam, Rhydderch Jones a llu o enwau adnabyddus eraill. Tybiaf mai hon yw'r 25ain yn y gyfres ddiddorol.
Maer gyfres yn cynnig cyfoeth o hanesion sydd yn rhoi darlen o fywyd yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Does neb yn cyflawni hynny yn well na Dafydd Wigley sy'n sefyll ben ag ysgwyddau uwchben y "cewri" eraill yn y gyfres, os ond am hyd ei gyfraniad. Mae ei dair cyfrol, O ddifrif (1992), Dal Ati (1993) a Maen i'r Wal (2001) yn llenwi cyfanswm o 1,102 o dudalennau ac yn waith awdurdodol ar wleidyddiaeth gythryblus, os nad chwyldroadol, Cymru yn ystod chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Ni ellir gwneud cyfiawnder â chyfrol mor bwysig heb neilltuo o leiaf un golofn ar ei chyfer. Ond cyn gwneud, bydd yn rhaid i mi yn gyntaf ddarllen y gyfrol olaf yn y gyfres.
Dewisodd sawl un gyhoeddi y to allan i'r prif gyfresi am ba resymau bynnag. Nodwyd yn y rhifyn diwethaf mai felly y dewisodd y Prifardd T. Llew Jones wneud a rhyw flwyddyn yn of cyfeiriwyd at gyfrol ragorol Gwilym Humphreys Heyrn yn y Tân a ddaeth o Wasg Pantycelyn. Penderfynwyd mai Gwasg Carreg Gwalch a fyddai'n cyhoeddi cyfrol am Guto Roberts, Y Fo Guto (2000). Detholion a geir yma dan olygyddiaeth Meredydd Evans a siomedig braidd yw'r gyfrol, efallai i mi ddisgwyl gormod - hwyrach y bydd yn rhaid ei hail ddarllen.
Prin y byddai neb yn synnu o ddeall bod y Tori blaengar Elwyn Jones wedi penderfynu bod yn wahanol! Daeth ei hunangofiant Y Rebel Mwyaf (1991) allan o Wasg Gwalia (pwy?). Cefais fwynhad eithriadol o ddarllen hon wrth imi geisio deall gwneuthuriad cymeriad mor gymhleth, un a droes mor ddigyfaddawd yn erbyn disgwyliadau ei fagwraeth. Y Cymro Cymaeg, cyw bregethwr Anghydffurfiol a drodd yn un o feirniad llymaf, di-flewyn-ar-dafod iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth ei genedl. Cymro o fu yn un o edmygwyr mwyaf Margaret Thatcher! Wedi darllen ei hanes, yng ngeiriau graenus Elwyn Jones ei hun, gellir gweld pam y dywedwyd am y ffigur gwleidyddol lliwgar hwn y gallai ddechrau ffrae petai mewn ystafell ar ei ben ei hun!
Braslun o gornel fach yn unig on llenyddiaeth gyfoes a geir yma ond cornel sydd llawn mwynhad, pleser a gwybodaeth. Yn fy nisgwyl fel canlyniad i wledd gyhoeddir Nadolig mae hunangofiant Mici Plwm Meical Ddrwg o Dwll y Mwg yn ogystal ag ail gyhoeddiad o gofiant gan Rhydderch Jones am ei hen gyfaill Ryan Davies. Yn goron ar y cyfan, i mi beth bynnag, mae hunangofiant David Meredith. Gobeithir y daw cyfle rhywbryd eto i fanylu ar rai o'r teitlau - braint fyddai hynny.