| Cofiaf Emrys Llangwm yn canu yn y Babell Lên ym Mro Colwyn, yn Awst 1995. Yn y cyfarfod teyrnged i'r Prifardd Dafydd Owen (1919 - 2003) fe ganodd yn wefreiddiol gerdd Dafydd Owen, "Mae nhw'n cloi yr hen gapel." Atseiniodd y cwpled clo yn fy nghof wrth i mi gerdded at Swyddfa'r Post ar Sgwâr Bargod oriau ar ôl clywed am farwolaeth Emrys Llangwm,
"Mae `na ryddid i bawb fyw'n hollol ddi-lun, Maen nhw'n cloi yr hen gapel ben bore Dydd Llun."
Yn 1966 y gweithiodd y bardd ei gerdd. Cyhoeddwyd hi yn ei gyfrol `Cerddi Lon Goch' yn 1983. Yn 1966 y daethom i fyw i Fargod. Tref hollol wahanol i'r lle heddiw. Roedd Ysgol Ramadeg yn Park Road, y Central Hall yn Wood Street, Capel Bethania yn Upper HIgh Street ac Ysgol Uwchradd Fodern yn Heol Llancayo. Mae'r pedwar adeilad wedi eu dymchwel bellach. Yn 1981 agorodd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn adeiladau yr hen Ysgol Ramadeg ac yno yr eisteddodd paneli sefydlog y Genedlaethol ym mis Chwefror 1989 i roi sêl ei bendith ar Destunau 1990. Oni fu Dafydd Iwan, Iris Williams, Huw Jones a llawer un arall yn canu ar lwyfan y Central Hall? Yng nghapel Bethania y clywais y Parchedig Gruffydd Jones, Bargod, y pregethwr dall yn agor llygaid pedwar ohonom i nodweddion Efengyl loan. Roedd hi ganddo mewn breil ar ei gof byw. Ysgol Llancayo oedd ein gorsaf bleidleisio. Yno y pleidleisiais yn is etholiad enwog 1968 a sylweddoli bod y Blaid Lafur yn synhwyro bod craciau yn ymddangos yn ei mur.
Mis Gorffennaf eleni maent yn dal i ddymchwel adeiladau ym Margod.
Aralleiriais linell Dafydd Owen pan welais y ffensys diogelwch yn cael eu codi o flaen y siopau caeedig yn Hanbury Road cyn cyrraedd y sgwâr,
"Maen nhw'n dymchwel y llyfrgell ben bore Dydd Llun."
Erbyn Sadwrn olaf y mis doedd dim o'i ôl! Ynddo y bu Cylch Llenyddol Bro Elyrch yn cynnal, ar y cyd a Llyfrgelloedd Caerffili, a chyn hynny Llyfrgelloedd Morgannwg Ganol, ei darlith flynyddol. Oni chawsom un ysbrydoledig ar ddechrau'r gyfres ac ar ei diwedd? `Beibl William Morgan 1588-1988' oedd testun un yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn 1988. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, `Ffin' oedd testun sgwrs y Prifardd T. James Jones, Caerdydd. Dadansoddodd ei awdl fuddugol o'i galon.
Mae pwll glo y Bargod a'r gweithfeydd yn gysylltiedig ag e wedi hen ddiflannu a ffordd osgoi Bargod wedi ei hagor o'r diwedd. Roedd yr awdurdodau yn ei thrafod yn 1966. Ond nid Bargod 1966 ydy Bargod felancolaidd heddiw.
 |