Meddwl yn dda oeddech, yn ddiau, wrth gywiro'r hyn yr oeddech yn tybied eu bod yn ffurfiau sathredig. Nos Iau, 18fed o Fai, cafwyd sgwrs ddiddorol iawn am y pethau hyn yng nghyfarfod misol Cylch Llenyddol Bro Elyrch gan y siaradwr gwadd, yr Athro Meic Stephens. Roedd yn feirniadol o lawer ohonom a gywirai plant, ac eraill, am ddweud Gelliger yn hytrach na'r Gelligaer mwy safonol. Felly, hefyd, Aberdêr yn hytrach nag Aberdâr a Bargod yn lle Bargoed. Y rheswm na ddylid cywiro'r ffurfiau hyn, wrth gwrs, yw am mai rhain ydy ffurfiau cynhenid iaith werin y Cymoedd hyn. Mae gan Meic Stephens, sydd â gradd mewn Ffrangeg, ddiddordeb mawr mewn ieithoedd ac, yn arbennig felly, mewn tafodieithoedd. Bu'n Athro ym Mhrifysgol Morgannwg ar astudiaethau Cymraeg, Ysgrifennu Creadigol a Newyddiaduriaeth. Fe, wrth gwrs, yw golygydd y 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' gan wneud enw i'w hun am ei ysgrifennu, ei adolygiadau, ei waith cyfieithu a'i olygu. Mae'n enwog am ei golofnau mewn papurau fel y Western Mail a'i ysgrifau coffa ar gyfer papurau trymion Llundain. Mae, ar ben popeth arall, hefyd yn olygydd Llenyddol y cylchgrawn chwarterol ardderchog hwnnw, 'Cambria'. Mae ei wyneb efallai yn fwy cyfarwydd fel un o'r ddau a gariodd Gwynfor Evans ar eu hysgwyddau drwy sgwâr Caerfyrddin wedi cyhoeddi canlyniad is-etholiad enwog 1966. Ers ymddeol trodd ei allu sylweddol tuag at farddoni. Daeth yn agos iawn i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2005. Nodwedd unigryw ei farddoniaeth yw ei fod yn canu yn y Wenhwyseg. Gofynnwyd y cwestiwn, faint o feirdd sy'n ysgrifennu o ddifrif ac yn cystadlu mewn tafodiaith fel hyn? Yr anhawster mawr, wrth gwrs, yw nad yw ei gerddi yn gallu bod yn anhysbys faint bynnag o ffugenwau a ddefnyddia! Ond yn ôl at y Wenhwyseg, neu'r Gwentian os ydych am fwydo enw i mewn i beiriant whilmentan eich cyfrifiadur, a dod i wybod mwy am y pwnc. Hon oedd yr iaith a ymestynnai tuag at y gorllewin o Went draw cyn belled â chymoedd Shir Gâr, a cheir nifer o amrywiadau o'i mewn. Er mai prin yw'r sawl sy' n arfer yr hen iaith erbyn hyn mae ei dylanwad yn bellgyrhaeddol ac yn gymorth i ddeall nifer o ffurfiau sydd yn parhau yn y Gymraeg fyw. Mwy am y Wenhwyseg - cyfrannwch eich geiriau ar-lein. Tafodiaith y de ddwyrain.
 |