Mae'r pennill yma'n adnabyddus drwy ddwyrain Morgannwg. Cerdd ddwli yw hi i rai pobl, sy'n ei hadrodd o ran hwyl. Mae pobl eraill yn dweud mai pos yw hi ac yn eich herio i ddyfalu beth y mae'n ei ddisgrifio. (Mae'r ateb ar waelod y dudalen hon.)
Mae'r pennill hefyd yn enghraifft dda o'r dafodiaith oherwydd mae'n cynnwys llawer o nodweddion pwysicaf yr acen:
colli h, fel yn annar 'hanner'Mae colli 'h' yn digwydd ymhellach i'r gorllewin hefyd. Ond mae'r nodweddion eraill yn gwneud i dafodiaith dwyrain Morgannwg swnio'n wahanol iawn i'r hyn a glywch chi yn y rhan fwyaf o'r De.
Y Wenhwyseg yw'r enw traddodiadol ar y math yma o Gymraeg. I'r gogledd, mae'r Wenhwyseg yn darfod bron gyda'r ffin â'r hen sir Frycheiniog. Mae'r sefyllfa ychydig yn gymhlethach i'r gorllewin.
I'r dwyrain i gwm Nedd y cewch chi holl nodweddion y Wenhwyseg.
Erbyn cyrraedd cwm Afan mae'r â fwy cyfarwydd yn dechrau disodli'r yn llth 'llath, llaeth'.
Yng nghwm Dulais mae e wedi cymryd lle'r 'a' mewn geiriau fel coesa 'coesau'.
Ac i'r gorllewin i gwm Tawe mae caledu mewn geiriau fel catw 'cadw', macu 'magu' a cripo 'cribo' bron â darfod.
Yn ogystal ag acen arbennig, mae gan y Wenhwyseg nifer o eiriau na chlywch chi mohonyn nhw mewn ardaloedd eraill. Geiriau fel graedo 'deifio, rhuddo, llosgi (am ddillad wrth eu smwddio)', iddia 'iorwg', myrion 'morgrug' a ponjin 'potsh, stwnsh'.
Yn y gweddill o'r De bydd pobl yn dweud bod car (gy)dag e neu (gy)da hi. Ond yn y Wenhwyseg fe glywch ganto a genti neu ginti. Ar un adeg roedd ffurfiau tebyg i'w clywed drwy'r De.
Mae'n debyg mai dyma dafodiaith yr hen sir Fynwy hefyd: wedi'r cyfan, Gwent yw sail yr enw Gwenhwyseg. Ond ychydig iawn a wyddom am iaith sir Fynwy.
Mae newidiadau cymdeithasol yn nwyrain Morgannwg wedi arwain at golli'r Wenhwyseg. Ychydig iawn o bobl sy'n ei siarad erbyn hyn.
Er na chlywch chi'r Wenhwyseg yn aml heddiw, mae twf yr ysgolion Cymraeg wedi arwain at greu acen newydd yn nwyrain Morgannwg. Ond hyd yn hyn does neb wedi galw'r Wenhwyseg ar honno.
(Yr ateb i'r pos: eingion y gof)
Gan: Yr Athro Peter Wynn Thomas, o Ysgol y Gymraeg,Prifysgol Caerdydd.