Tafodiaith y de ddwyrain

top
Cwm Rhondda

Bacid: llawer
Bit: bychan iawn
Cantan:cloncan
Cwiddyl: cywilydd
Daplas: annibendod, blerwch
Diwal: glaw mawr - mae'n diwal y glaw.
Gwildra: stumog wâg
Maplath: neidr ddefaid
Moefad: nofio
Motryb: modryb
Nyfath: pobl anystywallt (Mae Mary Wiiliam yn dyfynnu, "'Na nyfath o bobol odd yn byw 'no.")
Sgarjo: croen yn cochi ac yn torri.
Trico: ysu "Wi'n trico am ddishglad o de."
Tindwyro: mwytho neu faldodi
Walu: malu
Wingi wangam: igam ogam

Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y de ddwyrain rhwng 2004 a 2009

Wyn o Faesteg
Rydw i'n dal yn clywed yn y cymoedd y dywediadau canlynol:
Cam - ynganiad yw Calm, (step yn Saesneg)
Galifant - taith o gwmpas y lle.
Danted - Cael llond bol o bethau.
(Ionawr 1, 2007)

Rhodri Moseley, Yr Eidal
Er ges i'm magu yng Nghaerdydd, mae teulu'r Moseleys yn hannu o Rhymni, ac rwy'n cofio'n glir holl genhedlaeth fy nhad-cu yn siarad ag acen a thafodiaeth yr ardal (ac yn canu Bachan Bech o Ddowlish!)

Vivian, Nottingham (yn enedigol Llanwynno ger Ynysybwl)
deche - taclus, twt
bachan - gair gogleddol sef hogyn
Yn ôl y diweddar John Ifor Jones o Dreorci, yn wreiddiol geiriau Rhondda oeddynt.

John o Glydach, Abardâr gynt
Un dywediad wi'n cofio'n cael ei ddefnyddio'n aml yw 'diwêdima', e.e. "Gwelai fe diwêdima", sef prynhawn ma!

Steffan o Dredegar
Glywais i fam-gu fi (o'r Rhondda) yn gweud 'Darysio beth' - s'im clem da fi beth yw'r ystyr! Mae rhieni ffrind fi (yn Dredegar) yn gweud 'Juw a nwla'.

Graham Hughes gynt o Bort Talbot
Ebychiadau hoff fy nhad (o Gwmafan) oedd: "Iffach wyllt" a "Jawch Ariodi".

Steffan H. Ellis o Ystun Taf, Caerdydd yn wreiddiol
Mae Mam-gu wastad yn gweud "Well I go to Cardiff!" yn lle "duwcs annwyl" teip o beth. Roedd tadcu yn gweud "fel wetws yr hen ddyn wrth y mwnci" fel "as the actress said to the bishop".

Sally Jones o Ddowlais Top
prynu - pyrnu
a(hir) - e(hir ) e.e.
cath - ceth
glan - glen
bach - bech
ffa - ffe
na - ne
tan - ten
(o) flaen - (o) flen
Ne, ma'r ceth yn ishta flen y ten.

Gregory Snelgrove, Rasa Glyn Ebwy Prynais i'r llyfr "Blas ar iaith Blaenau'r Cymoedd" ble siaradwyd y Wenhwyseg. Dw i ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl ac dw i ddim yn dod o deulu Cymraeg. Fodd bynnag, mae fy nheulu yn gweud pethau fel:Bosh-SincCot-Colomendy (Ma fy nhad-cu a fy nhad yn cadw ac yn rasio colomennod.)
Abercwmsgwt / Cwmsgwt - Bydda i'n gweud: "Where've ew been Dad" ac bydd e'n gweud "Abercwmsgwt!" Lle dychmygol yw e.
Swci - plentyn sy'n cael ei fwytho.
Twpsyn-Rhywun di-glem.
Hefyd, mae fy nheulu yn gweud pethau fel:"Duw duw" "The dirty mochyn," "Go an shout on ya dad" sydd yn gyfieithiad o "Cer i weiddu ar dy dad" a fy ffefryn personol "he's like a fart in a bottle - Mae fel rhech mewn potel!
Ma pawb yn gweud Ach-y-fi fyd. Pawb! 'Rassa' nid 'Rassau'. 'Blaena Gwent' yn lle Blaenau Gwent. Dyma'r Wenhwyseg!

John o Ferthyr Tydfil
"Darwsh y be" "myn uffern i" - ma nifer o eiriau fel "mwgryg" yn lle morgrugyn yn cael eu defnyddio. Hefyd ma gair "lolch" yn lle gorwedd. Sai'n gwbod o le dath hwna. Sai'n nabod unrhyw un sy'n defnyddio'r swn "e" yn lle "a" yn lle "bech" yn hytrach na "bach". Ond ma na "llath" yn lle "llaeth", "galifanto" mas yn hwyr neu am amser hir. Mae'r hen bobl yn caledu cytseinia 'fyd. Ma pobl hefyd yn dweud "cwni" sef codi fyny; "deche" hefyd. Rwy di glywed pobl yn dweud "dai daps" jyst fel galw rhywun...sdim clem da fi o le ma fe'n dod; "cwtch" sef y lle dan star, neu lle ma'r ci yn cysgu, neu 'hug' yn y Saesneg. "Chwara teg" a "Duw Duw" ydy'r goreuon.

S o Bort Talbot
Onid y Wenhwyseg yw hyn i gyd? Roedd yr ieithwedd yn gyffredin o Swydd Henffordd i Bort Talbot a Chwmafan. Ym Mhort Talbot, mae stryd o'r enw "Pen y Cae" ond fel "Pen y Ce" (ag "e" hir yr yngenir hi). O fewn dalgylch tafodiaith y Wenhwyseg, mae amrywiaeth o ffurfiau berfol ac idiomau sy'n perthyn i wahanol ardaloedd. Yn anffodus, Cymraeg "Safonol" a'r capeli i raddau helaeth sy' wedi bron ein diffeithio o dafodiaith y Wenhwyseg.

Illtyd ap Dafydd, Maesteg
Tafodiaith Cwm Llynfi yw Cymreg, lle mae "e" yn cael ei ddefnyddio yn lle "a" e.e. 'rwy'n mynd mas i'r cae, yn nhafodiaeth Cwm Llynfi - 'rwy'n mynd mes i'r ce. Nid yw'r dafodiaith yma yn unigryw i Gwm Llynfi, mae ardaloedd eraill ym Morgannwg a chanolbarth Cymru yn cael tafodiaith tebyg.

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y de ddwyrain rhwng 2004 a 2009


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.