Tafodiaith y canolbarth

top
Cerdded ger y môr yn Aberystwyth

Rhestr o eiriau sy'n nodweddiadol i Geredigion a Phowys. O Aberteifi i Fachynlleth, y Drenewydd i Dregaron.

Altro - newid Bachan - bachgen Bagio - sefyll ar rywbeth Bech - bach Bêt - tamaid o fwyd Bigitan - poeni / bod yn boendod Bigits - digs, fel yn 'gad dy figits' Blaid - beudy Blino'n swps - blino'n lân / wedi ymlâdd Bobi un / Bobo un - un yr un Bracso - trio rhywfodd rhywfodd fel yn 'bracso drwyddi' Brat - ffedog Bubus / Bibis - "mae'r babi yn fubus - llefain o hyd"; cwynfanllyd Browlan - siarad / hel clecs Browlan fel cawl pys / fel ffatri bupur - siarad yn ddi-stop Byti/ bythti - bron cacs - cacennau Cachgu bwm - bumble bee Ca' sgwâr - gwely Ca' nos - gwely Cerbyd - car Cered - cerdded Cial - cael Cieth - cath Cinebêns - kidney beans Clatsho - ymladd Cleme - gwneud cleme (neud siapse) Clemio - Eisiau bwyd yn ofnadwy (rwy' biti clemio")Clipsen - bonclust Clotchen - "turf" 'Clowt / clowten / clowts - clatshen / "gei di gwpwl o glowts os na watchi di"! Clwbin - rhywun sy'n dwp Clwtyn - cadach/ lliain/ 'cloth' - clwtyn golchi llestri / clwtyn sychu llestri / clwtyn llawr Cog, cogie - bachgen, bechgyn Conan - cwyno Conen - menyw sy'n cwyno'n gyson Cosi - crafu Crasfa - ffeit Cusus - losin Cwato- cuddio Cwdyn plastig - bag plastig Cwter - ffos Danto - cael llond bol / rhoi fyny Deche - yn iawn, cymeradwy (job ddeche, bachgen deche; lle deche) Dim llefeleth - dim syniad Drib drab neu dribs a drabs - bob yn dipyn (mae'r pethe'n dod drib drab) Drotshen - math o glawdd 'Drycha - yn lle edrycha Dwgyn/ dwgyd - to stealDwyno - to dirtyFeddw whîls / Feddw gocls - yn feddw gocls Fel Crafu - poendod Fel heddi a fory - yn araf Whit wat - di ddal Fel soga - fel 'drip', fel llipryn Ffald - rhywbeth tebyg i 'clos' ee fferm Ffardel - parsel bach o rywbeth neis Ffest - cyflym Ffili - methu Fflŵr - blawd pobi. (Blawd = bwyd anifail) Ffyle - ceffylau Garetch - moron Garetshin / carotsen - moronen Geneth - merch Gepian - dylyfu gên Glei - ydw glei Grefi - Grêfi Gwenwyno - cwyno Gwenwn - hwyliau gwael, hynny yw "ma gwenwn ar rywun'" Gwenwnllyd - i fod â gwenwn Gwenwngast - merch gwynfanllyd Harin - casau Harten - cael sioc Heddiw - fel ag yn "Heddiw'r bore" / "Heddiw'r pnawn" yn hytrach na bore heddiw, pnawn heddiw. "Mi awn ni yno fory'r bore." Hemad - bwrw rhywun Hen gogie - llafnau ifainc Hen Sgrafell - dynes annifyr Hongian, shilts - wedi meddwi yn ofnadwy Hwnco Fynco - hwnna draw fan yna Iet - clwyd neu giat Iou - iau / ifancach ("mae hi'n iou na fe" - mae hi yn ifancach nag e) Jiawl - diawl Jibinc - menyw wedi gwisgo'n smart Jibs/ Shapse - gwneud stumiau, yn enwedig plentyn bach Lapan - hel clecs. "Mae lap arni" (mae'r ddynes yn un am hel clecs. Lib-lab - yn ddibaid. "Mae'n siarad lib-lab." Lletwad - 'ladle'Llywethyr - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gyflym oddi wrth yr oen Lodes- merch Macyn poced - hances boced Matryd - Newid o ddillad dydd i ddillad nos i fynd i'r gwely Mentyg / mencyd - benthyg Moelyd neu Moilyd - troi drosodd, hynny yw 'moelyd y car' Molead - meddwad Mofyn - eisiau, ymofyn. "Mae'n moyn cweir." Moyn - 'to fetch'Mor dwp â stêm yn dwp iawn. 'Mroi - neud rhywbeth ar bwrpas Mynd i'r cyhudd - mynd i gysgod yr haul Myntei - medde hi Panni - Pan fydd dilledyn gwlân wedi colli siâp Panso - trio'n galed Piffgwn / piffgwnen - picwn Pinco - ymbincio / coluro Pipo - edrych Pipo glaw - glaw mân Pipo yn y glass - edrych yn y drych Pisho gwneud dŵr Prifio - tyfu Propor - tlws derbyniol (lodes bropor; mae'n edrych yn bropor) Pwdel - mwd Rip-rap - yr un peth na'r llall. Chwit chwat. Rowtiau - olion olwyn cert Rwto mâs -chwilio am rywbeth / dod o hyd i rywbeth. "Rwy wedi rwto fe mâs. Sarnu - dau ystyr 1) amharu ar neu sbwylio rhywbeth hynny yw 'sarnu'r nosweth' 2) bwrw rhywbeth drosodd fel yn 'sarnu llaeth ar y carped' Sbriws - bywiog Sbrogian - 'to rummage'Scrwb - pam mae'r cyhyrau yn dost ar ôl gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Sgiffin- haen denau o eira Shiffalaffs - tato 'di ffrio (hynny yw gweddillion cinio dydd Sul i swper) Shirobyn - aderyn (Roedd e'n dipyn o shirobyn = tipyn o dderyn) Sidêt - ychydig bach yn well na'i gilydd Sidro - ystyried (o cysidro) Sietin - gwrych Socsen dau ystyr, 1) hosan 2) 'taro' hynny yw "rhoi socsen i rywun" Swclyn - Ebol Swigw - Dynes gas Swîts - losin Switsen - un losiynen Swmpo - e.e. 'Ma'n rhaid swmpo cad'er buwch cyn ei phrynu' Stingoedd - gwrychoedd Syco - rhoi Sycar - anifail sy'n sugno Syri - mewn cyfarchiad, "Sut mae hi Syri?" Tacle - bois drwg Tato - tatws Tecil - tegell Têd - tad Tên - tân Tew fel mwt - yn dew iawn Trangwls - rhyw bethau sy'n hongian (yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sydd gan ddyn hefyd!) Trigo - wedi marw Tropas - huddygl (soot) Twei-twei-twei (galw gwartheg) - cyfraniad gan Rosemary Tudor o Aberystwyth. uffernol - ofnadwy wado - bwrw Wap - yn y man - "fyddai 'na wap" Wban - llefain Wedi 'laru - wedi cael llond bol Wel y myn yffarn i! - Wel y jiw jiw! Wes - oes Whelpen - to whollopWheret / hergwd/wad - taro
Whilber - berfa Whilibowan - 'to dilly dally' Whitho - chwitho 'Whys drabŵd/'whys domen/ whys diferu / 'whys stecs - chwyslyd iawn Wiced - giât fach, llidiart. Wmed - wyneb Wtra - ffordd gul

Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y Canolbarth rhwng 2004 a 2009

Rhodri Lewis o Ddyffryn Aeron ...yr yffarn, e.e "golwg yr yffarn" - edrych yn wael.

Robert Lewis gynt o Rhaeadr GwyWnt - twrch daear, Sgythyn -haenan o eira

Tecwyn Owen, Dolgellau - gynt o Sir Fôn Cymydog yn galw yng nghartre fy mhriod (Eurwen Glynaeron, Talsarn)yn Nyffryn Aeron ac wrth iddo ymadael yn hwyr y nos yn edrych yn syn arnaf wrth imi ei ddanfon at y drws ac wrth ffarwelio yn dweud "Wel, hwre rwan". Yr oedd yn amlwg nad oedd yn gyfarwydd â'r modd yma o ffarwelio!Cofiaf hefyd fod perthynas o bell i'm priod wrth fy nhyfarch yn fuan iawn wedi i mi briodi ac yn dymuno'n dda imi gyda'r geiriau "Priodas dda ichi a llawer ohonyn nhw"!!

Glenys Morgan, Penrhyncoch Tatws: "Tatw" yn ardal Tregaron. "Tato" yn ardal Llanbed - 12 milltir rhyngddynt!!

Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog Cwro - gwneud, paratoi: cwro bwyd i rywun, cwro'r gwely. Sglemo: cath yn dwyn bwyd o'r ford - Odi'ch cath chi'n sglemo?

Wyn Davies o Langynnwr Gair gan mam sy'n byw yn Nyffryn Aeron: 'Clambar' - "mae'n ormod o glambar" - sef yn rhy fawr.

Joyce Magor nawr o Lundain Saeson yn aros dros nos yn nhŷ fy ewyrth Alcwyn. Dim ond fe oedd yn y tŷ a dim rhyw lawer o siap arno. Rhoi cwpaned o de i'r ymwelwyr a anghofio y llwye a dweud "To turn your tea with" a rhoi strainer blawd i gael gwared ar y dail te. Bill Bailey oedd yr enw ar y rhain ar dop y cwpan. Roedd na ddyn yn byw yn y pentre o'r enw ac yr oedd ganddo globen o fwstash!"

Gwyneth o Landysul 'Panso' - cymeryd gofal i wneud rhywbeth. 'Cleren/clatshen jub' - pwdi. 'Cwato' - chwarae cuddio, 'cinabens' - runner beans, 'bigitian' - poeni yn ddi-ddiwedd, 'clwtyn llestri/llawr' - cloth, 'aeth yn ei hyd' - cwympo, 'moyn' - yn eisiau rhywbeth.

G. Price o Lanwrtyd 'Hyd y twret' - llawn i'r top. 'Hyd y styden' - wedi meddwi'n gaib.

Gwyneth o Landysul 'yn feddw shils', 'trontol' - dolen cwpan neu jwg, 'lletwad' - llwy i godi cawl, 'bracso' - rhoi traed yn nŵr y môr.

Lynwen Roberts, Llangadfan "Ceth fech les yn y glew!"

Beryl Davies, Llanddewi Brefi 'Roedd Tad-cu Cwrt-Y-Cadno yn saer coed ar ystâd Dolaucothi, a Syr Hills Lloyd Johnes yn gofyn iddo, "What happened to your hand William?" Gallwch ddychmygu beth oedd cyfieithiad tad-cu am CACHGU BWM (yn ôl ei gydweithwyr) pan atebodd - "A Boom S--t pricked me Sir!"

Delyth, yn wreiddiol o Rhydlewis 'Sdim ots' - dim bwys.

Glenys Evans o Fydroilyn 'Swch' - y rhan o'r wyneb o gwmpas y geg a'r ên. Byddai Mam wastad yn dweud "Sych dy swch!"

Aled Jones o Benrhiw-Pâl 'sgyrnigo' - to winge, 'waildamsgen' - i droedio ar rywbeth, 'tishal' - i disian, 'chimo' - 'chi'n gwybod' 'clime' - 'cleme', 'gwneud ystumiau', 'mynd yn fagle i gyd' - mynd â'i wynt yn ei ddwrn , 'yn feddw caib', 'yn dablen (c)hwil','yn gorlacs', 'yn shils', 'yn gaib', 'yn feddw dwll glatsh'

Catrin Jones o Bwlch Llan Roedden ni fel teulu yn dweud matryd neu matri am newid cyn mynd i'r gwely!

Ffion o Lambed Gair i fi wastad yn defnyddio yw "stecs" -hynny yw, "yn lib stecs" (yn wlyb stecs - soaking wet)!

Mererid Williams o Dalybont Dwi a fy nheulu yn defnyddio'r gair "moyn" gan feddwl "eisiau", yn ogystal a "fetch". h.y "fi rili moyn y ffrog 'na".

Lowri Jones o Synod 'Mynd yn i hyd' - rhywyn yn cwympo, 'hyd y twret' - bod rhywbeth yn llawn i'r top.

Natalie Moore o Lambed 'Twmo' sy'n fyr am 'ti'n gwbod'! 'Sai Mo' am 'Dw i ddim yn gwybod'!

John Davies, nawr o Gaerdydd Ar Fynydd Bach, y gair am wasp yw piffgu

Dafydd Lewis o Aberystwyth ond yn wreiddiol o Ddyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn Ein gair ni am 'bet' oedd baet. Hefyd roedd gennym air am fodryb sef 'Bodo.' 'Ffebrins' wedyn oedd ein gair am Eirin Mair.

Elin yn wreiddiol o Geredigion 'Matryd' - newid i fynd i'r gwely, hynny yw newid i ddillad nos o ddillad dydd. Dw i ddim wedi clywed neb heblaw am fy nheulu yn ei ddefnyddio erioed!

Iwan Llywelyn o Aberaeron 'Pipo glan' - Glaw man

Yvonne o Geredigion 'Pipo yn y glass' - edrych yn y drych.

Garmon Ceiro o Dole, Bowstreet 'Harin' - casau

Elin o ddyffryn Aeron 'Garlibwns' - 'cwmpo yn garlibwns' yw 'syrthio bendramwnwgl'; 'ffrwcs' - e.e. mae lot o ffrwcs ar dy ddillad di (darnau o fflwff etc)

Wini Davies, Aberystwyth De Meirionnydd: 'prifio' am tyfu ("mae'r cog bech wedi prifio'n ofnadwy"). Byddai nain (o Lanwrin ger Machynlleth) yn dweud 'macyn poced' am hances boced a 'moyn' am fetch. Geirau dwi ddim wedi eu clywed ers blynyddoedd ydy 'bagio' (sefyll ar rywbeth) a 'sbrogian' ('rummage'). Dwi ddim yn gwybod ble clywais i'r geirau yna gyntaf gan fy mod wedi byw yn Llanfairfechan, Llanarmon (ger Pwllheli) a Harlech dros y blynyddoedd, cyn symud yma.

N. Jones 'Ffardel' - parsel bach o rhywbeth neis; 'Hen Sgrafell' - menyw annifyr; 'Roedd e'n dipyn o shirobyn' - tipyn o dderyn; 'Mynd i'r cyhudd' - mynd i gysgod yr haul; 'Cusus' - losin; 'Plentyn yn fubus' - yn llefain o hyd; 'Llywethyr' - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gloi oddi wrth yr oen; 'Trangwls' - rhyw bethau sy'n hongian - yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sydd gan ddyn hefyd!; 'Dim llefeleth' - dim syniad.

Tom Thirgood o Dal y Bont ar Wysg 'Clwbin' - rhywun sy'n dwp.

Eluned o Dregaron 'Swigw' - Menyw gas, 'Swclyn' - Ebol, 'Clotchen' - "turf", 'Fel heddi a fory' - yn araf, 'Fel soga' - fel "drip", 'Panni' - Pan fydd dilledyn gwlân wedi mynd mas o shâp, 'Clemio' - eisiau bwyd yn ofnadwy.

Hal o Ledrod 'wado' - bwrw, 'clatsho' - ymladd, 'cered' - cerdded, 'syco' - rhoi.

Ieuan Evans o Gwm Cou Rydym ni fel teulu wastad wedi defnyddio'r gair 'shiffalaffs' am dato 'di ffrio (hynny yw. gweddillion cinio Dydd Sul i swper).

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y canolbarth rhwng 2004 a 2009


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.