Tafodiaith y gogledd ddwyrain
top
Dyma restr o eiriau sy'n nodweddiadol i ogledd ddwyrain Cymru.
ar get - prysur
ar glem - byth yn cael digon
arben - beichiog
bawedd - gwael
bonc - bryncyn
brysiwch yma eto - dewch yma yn fuan eto
burgyn - corff anifal marw a pherson cas
bwchan - bychan
bwchins - nifer o bethau bwchan
bydrochi - ymolchi drosto
cacimwncis - cacamwci
cael - (y ferf) fi gyn, ti gyn, ef gyn, hi gyn ni gyn, chi gyn, nhw gyn
cais main - close shave
ceniog - ceiniog
cerpyn -cadach golchi llestri
'chwaneg - rhagor
chwislen - shrew
cit - sied neu dwll-dan-grisiau
cloncyn - lolyn gwirion
clos neu llodrau - trowsus
cnau - glanhau
cor - beudy
craft cae bychan i loiau neu tarw
crec - crack
crugo - edifar / difarru
cwat -cot
cyth - diawlineb
cythgam -andros
'dawch!' - dydd da ichi!
di-am - dibwynt
dim breg - dim byd yn bod
difie - dydd iau
dreng - irritable
ene - yna neu yno
fory bory - bore 'fory
fflimwt - peth bach trafferthus
fflob - poeri
gegin - ystafell fyw
geran - cwyno
giar - iar
golchi pen - golchi'r gwallt
gom - sgwrs
gostied - gorfod
gwitiad - aros
gwlanen - cadach molchi
gythow - gyda fo
hen he - cornchwiglen
hofel - adeilad agored i gadw offer fferm
honsel - ar werth
hwne fan ene - hwnnw fan acw
jed - tyrd
kabe - cwyno (ardal Bwcle)
keks - trwsus
laur - 'nghariad i (yr un aur, efallai?)
llardiau - carpiog
lleche - rickets
llechy - ffug; cynffongar; (Cymraeg: "llechu" ) (ardal Bwcle)
llygod diarth - llygod mawr
llymed - diod feddwol
Ma' fi gyn - Mae gen i. Gwyliwch "Mostyn Fflint 'n aye". (Diolch i Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug).
magu lleche - dweud y drefn
maw - mae o
molchi drosto - cael bath
moto - car
mwtsio - poeni
mwydro - poeni
mynd i'r 'cefn' - mynd i'r tŷ bach
mynd i edrych am fy mrawd - mynd i weld fy mrawd
mywion - morgrug
nacwes - nagoes
nadu - crio
nene - y peth yna
nene - hwnnw
naci - handi
odi - bwrw eira
olwyth - sleis o gig (ham fel arfer)
osio - tuddu
ponsh - mess
ponsh maip - tatws wedi stwnsio gyda meipen
'potas' a 'brwas' - dau fath o bwdin
potsio - ymyrru
propor - pretty
pywie mân - midges
rhidans - carpiog
rhwnyn - pear
sbensh -twll dan grisie
sennabund - Yn rhwym (ardal Bwcle)
shilin - peth bach annwyl
sinach - dyn cas
slob - siaced gwaith ffarm
s'mai wa!
sopen -dynes gas
strelio - rinse
strwtsh - sbwriel
strydfache - stilts
sur - finegr
sut? - pardon?
sws - cusan
syrcyn - vest
Trefn - Anhaclus. Mae na drefn ar y lle - rhywle anhaclus (glywais i erioed arni'n gael ei ddweud gydag eironi. fel plentyn golyga trefn 'mess')
tranglins - y llanast yn y sbensh neu'r daflod
trowsus rhesog - courderoy trosers
twca -cyllell i dorri bara
twsli - blawd llif
wes -oes
y bing - rhan o'r beudy y tu ôl i'r cafnau
y wib -cael syniad sydyn
yn'ai - 'ynde', neu 'on'd yw o' (Diolch i Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug)
yn ddrych - ddim yn ffit
yn falch sobor - yn falch iawn
yn filen - yn gas
yn fwrn- yn faich
Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y gogledd gdwyrain rhwng 2005 a 2009.
Rebecca o Lanelwy
iwsio - defnyddio,
ffindio - dod o hyd i,
rargian - rhywbeth oedd athrawon arfer dweud pan oedd plant yn camymddwyn!
cau hi - byddwch yn dawel,
dim ots - no doubt / dim yn gofalu.
Nos ddawch - Noswaith dda.
Dylanwad Saesneg i'w weld yn amlwg! Un peth dw i 'di sylwi ar - mae 'propor' yn cael ei cyfieithu fel 'pretty', tra mae llawer o bobl dwi'n 'nabod yn defnyddio fo i olygu urddasol neu cwrtais. (e.e. Dydi ymmddygiad y bachgen 'na ddim yn bropor.)
Carwyn o Lansannan
Dici - (boot car!)
Laurence Roberts o Lerpwl yn wreiddiol
Mae'n ddiddorol iawn i weld neges o Stuart Oswestry yma. Dwi'm wedi clywad erioed, o eiriau Cymraeg yn dwad i mewn Saesneg fel hyn. Dwi'n meddwl fod yn wych i weld. Mae Stuart yn gywir efo gair fel "sbensh". Gobeithio y bydd Stuart yn sgwennu yma eto, efo'i feddyliau ar iaith ei deulu a'i ardal fo.
John o'r De
Mae "cario clecs" a "chwarae'n troi'n chwerw" yn cael eu clywed yn aml fan hyn.
"Lolch" - person yn gorwedd yn anhaclus
"Popy" - colli pêl dros ardd rhywun (dod o'r hen fenyw ag oedd arfer cael popty yn ei gardd)
"cwtsh"- lle dan y grisiau, neu hug yn y Saesneg, neu lle mae'r ci yn cysgu. O'n i moyn rhoi ychwaneg i chi o dafodiaeth tu fas i'r ardal.
Sian o'r Rhosllannerchrugog
Mae na lot o pobl dal i ushio 'Nene Ene', pobl hen a ifanc, a gerie fel "chyrd onen" - tyrd ymlaen; "Doro fyny" - stopiwch.
Huw Waters o Abergele
Taid/Nain y bodo - gwryw neu menyw sy'n meddwl bod nhw'n hyn nac ydynt,
chware'r hen - dweud y drefn,
hei di - meiddia di,
sbenj - cwpwrdd o dan y grisiau,
steirie - grisiau,
di-am - anghyfleus,
be gynjar - be ar y ddaear,
ratsiwn beth - ffasiwn beth,
potes - llanast,
nadu - swnian,
yn dryw - yn ffyddlon.
Dilwyn Jones o Ddinbych
Cluro - rhwbio yn erbyn wal nes i hynny adael marc neu lwch ar eich dillad
cadach poced - hances
moni - llyncu mul neu bwdu
Catrin Parry o Gaerdydd (Llandyrnog gynt)
wrach - falle,
fferins - melysion,
Llinos, Llansannan / Llangernyw
wmbo - dwi ddim yn gwybod
sgelet - sosban (yn enwedig desgyl bwyd ci)
cacen (Llansannan) - cacan (Llangernyw)
pasa - bwriadu
Hwre! - Hwyl! Ta-ta!
Selwyn Williams, Caerdydd
'Dene nene ene'- dyna hwnna fan yna! neu fel y dywedir yn y De 'Hwnco manco'
'Tollti' paned o de - tywallt
Paste grochan - cawl
Mae o fel het - rhywun ffol
Cafflo - chetio (to cheat)
Cnwff - Darn tew o fara
Anthony Parry Bae Colwyn (Rhos gynt)
yn snot - yn chwysu
ci bara chyrents - 'dalmatian'
twsli - 'sawdust'
crabalanten - math o deisen
shinigls - darne man
gwyneb iychymwrdwr - hyll, neu cas?
Angharad (Dinbych)
cisio - cusanu
Alun Williams Caerdydd (ond o Llandyrnog)
Yn ein teulu ni, denni'n dweud "trwsus" a "trons" am eich dillad isa. Ond mae rhwyn arall yn yr un ardal yn deud trons am trwsus!
Rhys Clwyd, Rhuthun
sbensh - twll dan grisie
Chris Bailey o Dreffynnon
Mae acen y cymoedd dal gyn bobl y Rhos i ryw raddau. Dwi'n cofio mynd lawr i Gaerdydd yn yr wythdegau i weld Wrecsam yn chwarae ac yn ein parti roedd geneth o'r Rhos. Ar ôl deg munud mewn tafarn yng Nhaerdydd dyma boi o'r Barri yn dweud "Anyway what a girl from the Rhondda doing supporting the Gogs?" Doedd hi erioed di bod i'r Rhondda nag unrhyw un o gymmoedd y de.
Elen, Rhosllannerchrugog
winiwns - nionyn
chware'n troi'n chwerw -(dwi'm yn siwr os 'di hwn yn cael ei ddefnyddio unrhyw le arall yng Nghymru ond ma' dad wastad yn ei ddweud o i fi a fy chwaer!)
sofren - darn punt
cario clecs - dweud celwydd (eto dwi'm yn siwr os defnyddir hwn unrhyw le arall neu hyd yn oed os 'di o'n dod o'r Rhos)
A darn o newyddion da i Llinos o Rhuthun [sylwadau isod], dwi'n falch i ddweud fy mod i wastad yn dweud "nene" ec "ene" (a dwi ddim yn 30 'to!)
wastad - o'r hyd!
Stuart, Oswestry
Just started learning Welsh and found this really weird to read! My family's English and from Oswestry, but we've always used certain words growing up that never seemed to be used elsewhere- words that I didn't know how to spell- 'spench' was the name for my nan's room under the stairs where she kept a mop and bucket and general junk,'lobscouse' was a watery/beef stew my mum still cooks, and 'ponchmipe' was boiled potatoes mashed with boiled turnip!
There are loads of other words we used in the family (but since we only used them speaking to others in the family/close neighbours, we never wrote them down)- it just makes me wonder if some,or even all the others are of Welsh origin?! My family's always been English speaking and based around Oswestry. To be honest, they're not words I use, they're more words that others use in the area (particularly older members of the family etc), so I'm familiar with.
Chris Bailey o Dreffynnon
ugian - ugain
be ti gyn? - beth sydd gen ti?
be haru ti? - beth sy'n bod?
'blaw - heblaw
bonc/boncyn - twmp bach
ciamocs/giamocs - triciau
cadach poced - hances
pry llwyd - mochyn daear
cwffio - paffio
dene fo - dyna fo
shil - cariad (glywed mewn siop e.e.)
lobsgows - cawl
cafna - camfa
heglu - cerdded yn gyflym (hegla ene rwan)
pry copyn - spider
pryfedd man - pethau bach (cnats)
Moira Brown o'r Rhos yn wreiddiol
odi - bwrw eira. "Odi,odi, Blawd yn codi"
John Jones o Bala
crig - gwely
John Rowlands, Bagillt
herc=idiot
hidia befo = paid a poeni, dim o bwys, dim problem
Gareth, Nantglyn
Pywie man = midges.
Charles o'r Wyddgrug
nadu = crio (ardal Llanarmon yn Iâl)
Yr hofel - adeilad agored i gadw offer fferm
yn falch sobor - yn falch iawn
brysiwch yma eto - dewch yma yn fuan eto
mynd i edrych am fy mrawd - mynd i weld fy mrawd
Richard o Dreuddyn
y berf 'cael' - fi gyn, ti gyn, ef gyn, hi gyn, ni gyn, chi gyn, nhw gyn
craft - cae bychan i loiau neu tarw
y bing - rhan o'r beudy y tu ôl i'r cafnau
bwchan - bychan
gostied - gorfod
mynd i'r 'cefn' - mynd i'r tŷ bach
clos neu llodrau - trowsus
hwne fan ene - hwnnw fan acw
nene - hwnnw
gwitiad - aros
giar - iar
slob =-siaced gwaith ffarm
mae na drefn ar y lle - rhywle anhaclus (glywais i erioed arni'n gael ei ddweud gydag eironi. Fel plentyn golyga trefn mess)
potsio - ymyrru
Lisa o Ddinbych
crugo - difaru
Llinos o Rhuthun
O Rhosllanerchrugog yn wreiddiol. Sylwadau Dafydd o Rhuthun "'aru fi" ayb, "aru" ydy ffordd bur o dweud "ddaru" (wnes i) os dwi'n iawn?
Rwyf wedi anghofio rhan fwyaf o iaith Rhos rwan ond i ddweud y gwir, does na ddim llawer o bobl ar ôl yn Rhos (heblaw am y bobl hŷn!) sy' dal i siarad "Nene ene"! Rwyf o'r hyd yn chwerthin pan dwi'n clywed Mam yn dweud pethau fel "Laclwydd!" (Arglwydd) a "Mhais i fyny mhogel!" (peticoat has ridden up to my navel!) Ia, dwi'n gwbod, andros o rhyfedd ond tydi! Mae'r acen Rhos yn un rhyfedd iawn, ac roedd yna sôn fod yna lot o bobl wedi'i wreiddio o ardal Sir Powys. Ydy hwn yn wir?
John Edwards o Catterall
Hws - cweir yn ardal Nercwys, Sir y Fflint
Phil Phillips o'r Rhos yn wreiddiol
na i'm poncho - I won't bother
byglud - dirty
racs - hopeless
llygod diarth - rats
chware - unemployed.
Gareth, Nantglyn
Twca= cyllell i dorri bara,
Cerpyn - cadach golchi llestri,
Gegin - ystafell fyw,
Wes - oes,
Nacwes - nagoes.
Aled Elwyn Jones o Ddinbych
Syrcyn - vest,
Mywion - morgrug,
Gwlanen - cadach molchi,
Ceniog - ceiniog,
Moto - car,
Sut? - pardon?
Gwen o Benycae Wrecsam
strelio - rinse,
rhwnyn - pear,
rhidans - carpiog,
llardiau - carpiog,
magu lleche - dweud y drefn,
dreng - irritable,
olwyth - sleis o gig (ham fel arfer)
golchi pen - golchi'r gwallt,
'Dawch!'- Dydd da ichi!
Dafydd Roberts
llymed - diod feddwol,
bydrochi - ymolchi drosto,
difie - dydd iau,
fory bory - bore'fory,
'chwaneg - rhagor.
odi - Bwrw eira,
cwat - cot,
di-am - dibwynt,
arben - beichiog,
ar get - prysur,
ar glem - byth yn cael digon,
bawedd - gwael,
dim breg - dim byd yn bod,
yn fwrn - yn faich,
cais main - close shave,
yn ddrych - ddim yn ffit,
molchi drosto - cael bath,
geran - cwyno,
gythow - gyda fo,
jed - tyrd,
honsel - ar werth,
lleche - rickets,
llygod diarth - llygod mawr,
yn filen - yn gas,
mwtsio - poeni,
mwydro - poeni,
osio - tueddu,
trowsus rhesog - courderoy trousers,
sur - finegr,
twsli - blawd llif,
maw - mae o.
Julie Hawatson Broster o Ddinbych
"Denbigh Nai" Hia Lyle!
Elizabeth Williams o Wrecsam
nadu - gwrthod,
sbensh - sbens.
Iwan Williams, Llangwm, Corwen
S'mai wa!
Sian Jones o Ddinbych
cnau - glanhau,
laur - 'nghariad i (yr un aur, efallai?)
Walt Derby (Bagillt)
Tatiad, Labiad, Nerco, Cwtryn, Coetia, Bloca, Ago'dygorn, Gwthban, Carthen, Balog, Dimbran, Prigyn, Gogo, Llwath, Llafnes, Llafngi, Cisio.
Dewi o Dreffynnon
Cafna -Camfa,
Sgoden - Llygoden,
Petty -tŷ bach,
Dech chi gyn pob dim arall am wn i!
Dafydd o Ruthun
'aru fi, 'aru ti, 'aru o, 'aru hi, 'aru ni, 'aru chi, 'aru nhw ... (unai Cymraeg gwallus, neu ffurf gorffennol o 'gwneud'. Deillio o 'darfu' falle?)
Hafina Clwyd, Rhuthun
Sbensh- twll dan grisie,
Tranglins - y llanast yn y sbensh neu'r daflod,
Bwchan - bychan,
Bwchins - nifer o bethau bwchan,
Sinach - dyn cas,
Sopen - dynes gas,
Cythgam - andros,
Burgyn - corff anifal marw a pherson cas,
Ponsh - mess,
Crec - crack,
Crugo - edifar,
Cloncyn=lolyn gwirion,
Propor - pretty,
Y wib - cael syniad sydyn,
Strydfache - stilts;,
Chwislen - shrew;
Cor - beudy,
hen het - cornchwiglen.
Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y gogledd gdwyrain rhwng 2005 a 2009.


