BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Jane HydeFfarwelio â Rhymni- wedi 33 mlynedd!
Rhagfyr 2007
Ddiwedd yr Haf, 2007 ymddeolodd Mrs Jane Hyde o Ysgol y Lawnt lle y bu ers 33 o flynyddoedd, 24 ohonynt fel Pennaeth. Bu'n rhannu rhai o'i hatgofion gyda Tua'r Goleuni.

"Pan ddechreuais ddysgu yn Rhymni roedd yr ysgol yn ysgol Fabanod Rhymni Ganol yn Goshen Street, gyda thri dosbarth wedi'u gwahanu gan baredau, dim neuadd ac ystafell fwyta fach. Bu'n rhaid symud desgiau a chadeiriau cyn y gallen ni gynnal gwasanaeth.

"Roedd y gaeafau yn Rhymni yn oer ofnadwy, a deuai'r merlod a'r defaid i lawr o'r mynyddoedd yn chwilio am fwyd, gan droi'r biniau yn iard yr ysgol. Pe na bai'r glwyd wedi'i chau'n dynn, byddai'n rhaid i ni anfon criw o fechgyn hynaf yr ysgol i lawr i hysio'r anifeiliaid mas o'r iard.

"Rydw i wedi symud gyda'r oes, ac ar ddechrau'r 1980au cawson ni ein cyfrifiadur cyntaf yn yr ysgol - BBC, a oedd â'r un cof sydd gan gyfrifiannell erbyn heddiw.Roedd y cyfrifiadur mor werthfawr, roddwn i'n arfer mynd ag ef adref yn y car bob nos am fisoedd, a'i gloi'n ddiogel yn y garej nes bod cyffro o dechnoleg fodern wedi gwisgo!

"Doedd dim llungopiwyr - sy'n golygu roedden ni lawer yn garedicach i'r amgylchedd nag ydym heddiw - dim ond peiriant 'Banda' oedd gennym, a oedd yn defnyddio hylif fflamadwy iawn - roedd yn cael ei gadw drws nesaf i'r gwresogydd nwy yn y dosbarth, a byddai'n aml yn cael ei arllwys ar ddwylo ac esgidiau wrth lenwi'r ddrwm - ond doedd hynny ddim yn ein poeni o gwbl - rwy'n cofio ei fod yn anweddu mor gyflym oddi ar fy nwylo.

"Sôn am iechyd a diogelwch. Byddem yn cael menthyg bws mini Clwb Ieuenctid Heolddu, yn hurio un arall, ac yn gyrru ar bnawn Gwener, yn dod adref ddydd Sul, yn gwbl ddiogel. Buom ni'n gwersylla yn y Gŵyr, yng Nghwrt y Cadno yn Sir Gaerfyrddin, Craig y Nos yng Nghwm Tawe, a sawl gwaith yng ngardd fy rhieni ym Mhontyberem - dyddiau da!

"Rwy'n cofio llygoden fawr yn rhedeg i'r ffreutur un amser cinio, ac yn rhedeg o dan y cownter gweini bwyd - a hynny ar y diwrnod roedd Blwyddyn 5 a 6 yn mynd i Langrannog am benwythnos. Bu'n rhaid imi drio gael gwared arni gyda brwsh llawr a bws Llangrannog yn aros amdanom tu fas! Doedd wiw i neb ddweud wrth y rhieni, a oedd wedi dod i ffarwelio â 'u plant, pam yn union roedden nhw mor hwyr yn gadael!

"Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi perfformio 33 o gyngherddau Nadolig, 33 o gyngherddau Dydd Gŵyl Dewi, Gwasanaethan Diolchgarwch ac eisteddfodau gyda phob un yn rowlio'n un erbyn hyn. Rydw i wedi dathlu 25, 40 a 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhymni.

"Rwy'n cofio un o'r dathliadau hyn yn benodol - gwahoddwyd yr ysgol i gymryd rhan mewn gwasanaeth a - gynhaliwyd yn Eglwys Rhymni. Wrth i amser cychwyn y cyngerdd agosau, sylweddolais nad oedd ein pianydd wedi cyrraedd - doedd dim ffônau symudol yn bodoli bryd hynny, ac felly rhaid oedd bwrw mlaen! Gyda fy niffyg sgiliau cerddorol, y cyfan allen i feddwl am ei wneud oedd canu C ganol ar y piano, a gobeithio y byddai'r plant yn llwyddo i gynnal y dôn. Roeddwn yn sefyll wrth y piano, gyda fy mys yn barod i daro'r nodyn, pan ruthrodd yr athrawes i mewn - dydw i ddim yn credu i mi fod mor falch o weld rhywun erioed!

"Pan ddechreuais yn Rhymni, roedd nifer o'r mam-gus a'r tad-cus oedd yn dod i gasglu'r plant o'r ysgol yn gallu siarad Cymraeg. Roeddent yn mynd i'r capeli Cymraeg yn Rhymni, ond heb gael addysg Gymraeg ffurfiol fel y cyfryw. Erbyn heddiw, rwy'n gweld llawer o'm cyn-ddisgyblion yn dod â'u plant i'r ysgol, yn benderfynol o roi addysg o safon iddynt yn Gymraeg, sy'n rhoi boddhad mawr iawn i mi - mae'n rhaid ein bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn yn Rhymni! Fodd bynnag, fy mhryder mwyaf yw, os na wna i ymddeol nawr, y bydda i'n dysgu wyrion ac wyresau fy nghyn-ddisgyblion cyn hir!

"Hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bawb, ac i'r ysgol o dan arweiniad newydd yn y dyfodol. Bu'n fraint ac yn anrhydedd i allu cyfrannu at fywydau plant sydd wedi mynychu Ysgol Gymraeg Rhymni, ac Ysgol y Lawnt, ac i fod wedi cael cymorth a chefnogaeth staff gwych."

Pob dymuniad da i Jane yn ystod ei hymddeoliad a diolch iddi am ei holl waith.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy