| Llynedd cyhoeddwyd 3 cyfrol bwysig sy'n portreadu'r bwrlwm gwleidyddol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bu disgwyl mawr am "Gwynfor: Rhag Pob Brad", cofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans. Teitl hunangofiant Cynog Davies ydy, "Mab y Pregethwr". Un arall o feibion gweinidogion Cymru ac un arall o'r Hen Gorff a ddaeth yn wleidydd mawr ei ddylanwad ydy'r Arglwydd Roberts o Gonwy, Syr Wyn Roberts, cyn hynny, ac fel Wyn Roberts fu'n Aelod Seneddol Conwy o 1970 hyd 1997. Cyhoeddodd yntau ei hunangofiant, "Right From the Start". Safodd am y tro cyntaf ar ran y Ceidwadwyr yn Etholaeth Conwy ar 18fed o Fehefin 1970 a chipio'r sedd oddi ar Lafur - Ednyfed Hudson Davies. Enillodd Mr Davies y sedd ar 3lain o Fawrth 1966. Erbyn 3ydd o Fai 1979 roedd e'n sefyll dros Lafur yn Etholaeth Caerffili ac yn ei hennill. Erbyn 1983 roedd wedi cefnu ar yr etholaeth. Yn y tair cyfrol ceir cyfeiriad at Gwm Rhymni. Wrth gwrs, mae sôn am isetholiad dylanwadol Caerffili, 1968. Yn bersonol mae'n rhaid i mi dderbyn sylwadau Gwynfor am yr ymgyrch. Mae Cynog Davies yn crybwyll y gefeillio bu rhwng ysgol Talgarreg ac Ysgol Gymraeg Bargoed rywbryd ar ddechrau'r saith degau. Crybwyllir Tredegar Newydd yn "Right From the Start". Gweithiodd Wyn Roberts yn ddygn y tu ôl i'r llenni yn Llundain er mwyn cael y Llywodraeth Geidwadol, 1979-1997 i gydnabod Cymru a'r Gymraeg. Wrth ddarllen yn ddiweddar "A Fo Ben...." Awdl fuddugol Idris Reynolds yn Aberystwyth 1992, Gwynfor Evans a welwn i mewn cwpledi fel, "Un gwr yn arfog o iaith
Un mab yn fam o obaith." Fe fanteisiodd Wyn Roberts ar y cyfleoedd a gafodd yn Whitehall i ddadlau tros Gymru. Fe fanteisiodd Gwynfor ar bob cyfle a gafodd i ddweud yn dda am Gymru. Dylanwadodd Cynog Davies yn fawr ar ei filltir sgwâr yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod 1950-2000 roedd angen y tri yng Nghymru. Dau ddiwrnod cyn y Nadolig llynedd bu farw Mrs Huana Morgan, Abertawe, yn 99 oed. Wrth dalu teyrnged i'w fam cyfeiriodd Rhodri Morgan, amdani fel athrawes. Ei swydd gyntaf oedd mewn ysgol yn Rhymni a bu yno am ddwy flynedd rhwng 1929 a 1931. Meddai, "Wrth deithio i Rymni o Ynystawe, Abertawe, cafodd daith hunllefus. Dal bws i ddechrau, yna trên, newid i fws arall er mwyn dal trên arall a newid eto fyth i fws. Doedd ryfedd ei bo hi'n falch i gael swydd yn Ysgol Glan Mor, Abertawe.".
 |