 |  |  | Eleri Darkins yn hedfan Hydref 2002 Yn ystod y mis diwethaf clywsom ar y radio a darllen yn y papurau fod telynores o Gymru yn hedfan draw i Thailand i hybu cerddoriaeth y delyn yno, drwy gynnig gwersi i blant y brenin. |  |  |
 | Bu Catrin Finch yno am gyfnod ac wrth iddi ddychwelyd i Gymru, mae Eleri Darkins, sy'n byw yn Nelson, ac yn ferch i Jeff a Meryl Darkins yn hedfan allan i barhau gyda'r broses o gynnig gwersi ar y delyn yn Bangkok.
Syniad Sunida Kitiyakra - aelod o deulu brenin y wlad oedd sefydlu'r Ysgol Delyn, a fe a wahoddodd Eleri i ystyried y swydd fel hyfforddwraig yn yr ysgol newydd.
Gwyddom am ddoniau cerddorol Eleri ac fe fydd y profiad hwn yn ychwanegu at ei phrofiadau.
Ar hyn o bryd mae'n ceisio dysgu hanfodion yr iaith Thai, ac fe fydd yn hedfan allan i Bangkok yn ystod mis Tachwedd i ymgymryd â'i swydd newydd.
Mae'n siwr y bydd yn cyflwyno sawl agwedd o gerddoriaeth Cymru iddyn nhw ac yn manteisio ar bob cyfle i sôn am Gymru, ei phobol a'i diwylliant.
Pwy a wyr efallai y bydd côr o Thailand yn ymweld â'r Eisteddfod yn Llangollen wedi dysgu caneuon Cymraeg.
Mae teulu a ffrindiau Eleri yn gobeithio ymweld â hi yn y wlad ryfeddol hon yn ystod y cyfnod.
 |  |  |  |
| 
|