Tair awyren, ac oriau maith o gyffro ac aflonydd yn ddiweddarach, cyrraeddon ni Calcutta, lle'r oedd aelodau o staff Sanlaap, y mudiad roeddem ni yma i ddysgu amdano, yn aros i gwrdd â ni Roedd y gwres yn eithriadol, a'r golygfeydd ar y strydoedd wrth i ni yrru heibio yn anhygoel. Treulion ni ein diwrnod cyntaf yn y ddinas yn ymlacio, ceisio adennill cwsg, dod i arfer gyda'r amgylched newydd a blasu'r bwyd lleol wrth gwrs. Roedden ni'n ddiolchgar iawn am ddiwrnod o seibiant cyn yr amserlen brysur o'n blaenau.
Darganfyddom ni bod gan Sanlaap bartneriaeth gyda mudiadau ar draws Calcutta a ledled y byd, i gyd yn gweithio dros hawliau i fenywod a phlant sydd mewn perygl o drais neu gamdriniaeth. Mae'r gerdd isod sydd wedi ei hysgrifennu gan aelod o staff Sanlaap, yn cael ei chadw yn lloches Sneha ac yn crynhoi ymgais gwaith y prosiect:
We are here together with thoughts astray
We are here to make ripples in the
Still waters of abuse and discrimination
We are here to bring change.
I mi a gweddill y grwp rwy'n meddwl mai ein hymweliad â lloches Sneha gafodd yr effaith fwyaf arnom. Roedd yna rhwng 50 - 60 o ferched oedd wedi eu hachub o fyd masnach rywiol, rhai ohonynt mor ifanc ag wyth mlwydd oed. Dyma ffaith erchyll, ond roedd gweld pa mor ifanc a diniwed oedd y merched hyn yn edrych hyd yn oed yn waeth. Dim ond dau ddiwrnod llawn dreulion ni yn y lloches, ond llwyddon ni i adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gyda'r merched, gyda rhai ohonynt yn rhannu eu profiadau personol gyda ni. Roedd gan bob merch ei hanes o gamdriniaeth emosiynol, corfforol a rhywiol. Yn y lloches derbyniant gyngor proffesiynol, therapi trwy ddawns a symudiad a nifer ohonynt yn datblygu i fed yn fentoriaid, yn helpu merched newydd i'r lloches ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw a'u hannog i edrych yn bositif tuag at y dyfodol.
Roedd y bywydau a'r straeon daethon ni mewn cysylltiad gyda nhw yn anghredadwy ac yn teimlo fel byd gwahanol i'r bywydau rydym ni'n byw yn y wlad hon, er bod y merched y lloches, ein cyfeillion newydd mor debyg fel pobl. Yn dilyn y daith rydym ni'n awyddus iawn i deithio o gwmpas ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedol, eglwysi ac unrhyw fudiadau eraill i addysgu pobl o bob oedran, yn arbennig pobl ifanc, am broblemau menywod ifanc a phlant ein byd ni heddiw. Rydym ni am ddefnyddio 'r hyn a welsom ac a ddysgom er mwyn codi ymwybyddiaeth a hybu pobl i ymgyrchu neu gyfrannu at yr achos. Gobeithiwn wahodd criw o ferched Sneha i Gymru y flwyddyn nesaf, ond yn amlwg bydd angen codi llawer o arian er mwyn gwneud hyn yn bosib.
Fe ddibynon ni ar gefnogaeth pobl leol er mwyn gwneud y daith i Calcutta yn bosib. Hoffwn i ddiolch i bawb wnaeth gyfrannu at brosiect Croeso Calcutta, yn arbennig bwyty Castle Gate a chlwb rygbi Caerffili am wneud y noson Indiaidd yn bosib (gan godi £700 mewn un noson).
Os ydych am gyfrannu at y prosiect, neu am i ni roi cyflwyniad yn eich cymuned yna cysylltwch â Carly Wilson: Y.G.C.R, Ffordd Gellihaf, Fleur de Lys, Coed Duon, NPI2 3JQ, 07976 003347. carly@urdd.org
Carly Wilson