BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Seremoni Gwobrwyo Dysgwyr Cymraeg
Awst 2005
Mae amryw o ddysgwyr Cymraeg yn ardal Cyngor Tredomen wedi derbyn gwobrau am ddysgu Cymraeg.
Ar ddydd lau 14eg Gorffennaf yn Siambr y Cyngor Tredomen, cynhaliwyd y 4ydd Seremoni Gwobrwyo Dysgwyr Cymraeg i gydnabod gwaith caled a chyraeddiadau'r holl staff sydd wedi ymgymryd â Chyrsiau Iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd 2004-5.

Yn gyfan gwbl cofrestrwyd 103 o staff y Cyngor a 10 aelod o staff Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili ac Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent ar amrywiaeth o Gyrsiau Iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd.

Roedd 60 o'r rhain yn parhau i ddysgu a 53 yn ddysgwyr newydd. Y siaradwyr gwadd oedd Lowri Pugh o Fenter laith Caerffili, Pierre BernhardGrout un o ddysgwyr Cymraeg profiadol y Cyngor, a Nia Parry, Cyflwynydd Teledu, o raglenni fel 'Welsh in a Week', a hi wnaeth gyflwyno'r tystysgrifau i'r dysgwyr.

Siaradodd y tri ohonynt am eu meysydd gwaith ac am sut mae nhw i gyd yn chwarae rôl bwysig i sicrhau bod y cyrsiau iaith Gymraeg sy'n cael eu cynnig i'r staff yn parhau i fod yn llwyddiannus.

Roedd y Dirprwy Faer, Cyng. Liz Aldworth a'r Dirprwy Arweinyddion, Cyng. David Hardacre a Cyng. Gerald Jones yn bresennol yn y Seremoni. Yn dilyn y Seremoni, cafodd bwffe ei gynnig i bawb a thynnwyd lluniau o bob dosbarth i gofnodi'r achlysur.
Anwen Rees
Cydlynydd Hyfforddiant Iaith Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy