| Bu'r cwmni'n difyrru cynulleidfaoedd mewn pedwar man. Cawsant eu croeso arferol wrth berfformio yng Nghaerffili a Chasnewydd eleni ond hefyd buont yn torri tir newydd drwy fentro i'r Tabernacl, Pen y Bont a chapel Methodistiaid Radur. Ai halogiad oedd chwarae drama am Dduw ac angylion gyda thipyn o dynnu co's ynglŷn â materion Beiblaidd? Yn sicr ni chafwyd unrhyw gwynion - er i o leiaf bedwar gweinidog yr Efengyl eistedd drwy'r perfformiadau. Nid rhyfedd, efallai gan gofio mai Cwmni Drama Heol y Crwys, Caerdydd, oedd y cyntaf i lwyfannu'r cyfieithiad hwn. Hon oedd y ddrama a enillodd iddynt y wobr gyntaf am chwarae drama un act yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997. Dan gyfarwyddyd Allan Cooke gwelwyd Ann Lewis yn chwarae rhan 'Cristion' a Tracey Addicott rhan 'Athea'. Aelod cymharol newydd ac ifanc i'r cwmni yw Trystan ab Ifan, yn chwarae rhan 'Agnosticus'. Teimlwyd bod profiad Ben Jones o fod yn Brifathro am ddegawdau yn baratoad addas ar gyfer chwarae rhan 'Duw' ! Roedd digon o waith dysgu llinellau ar gyfer yr uchod ond actio heb lefaru oedd hynt Nia Parsons (Efa) a Fred Brooks (Adda). Gareth Williams a chwaraeodd rhan y diafol(!) a hynny'n llawn tân. Roedd Fred Brooks eto yn gyfrifol am y set a'r props a chafodd gryn hwyl ar lunio Swyddfa Batent Nefolaidd yn y cymylau ag adenydd ar gyfer y cyfryw gymeriadau. Gwelwyd proffesiynoldeb arferol Peter Davis wrth ei waith gyda'r effeithiau sain a'r goleuadau. Derbyniodd y cwmni wahoddiad i ymddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Maent nawr wrthi'n chwilio am ddrama briodol. Hefyd, maent bob amser yn chwilio am aelodau newydd i action neu i gynorthwyo y tu hwnt i'r llen! Beth amdani? Cysylltwch â Ben Jones ar 029 20862428 eu unrhyw aelod arall o'r cwmni..
 |