BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Dr HunterO Lanbradach i America ac yn ôl
Mai 2005
Aeth Morgan John Rhys o Lanbradach i America, ond daeth Jerry Hunter o America i Lanbradach.
Yn ŵr ifanc o Americanwr bu'r Dr Hunter yn canlyn cwrs astudiaethau Prydeinig tra'n fyfyriwr Prifysgol. Arweiniodd hynny at astudio Cymru fel rhan o Brydain ac yna, yn y pen draw dod draw i Gymru.

Yma, dysgodd y Gymraeg a dod yn ddarlithydd prifysgol, a hynny yn ei iaith fabwysiedig, cyn priodi â Chymraes, ymsefydlu mewn cymuned Gymraeg a brwydro dros hawliau'r iaith a'r diwylliant cynhenid. Anodd iawn credu nad oes unrhyw waed Cymraeg yn ei wythiennau.

Nid yn unig daeth Dr Hunter o America ond, yn fwy penodol o Cincinati yn nhalaith Ohio, ac rydym yn gwybod, â pheth sicrwydd, i Morgan John Rhys ac, yn wir, John Evans ymweld â'r ardal honno yn ystod eu teithiau yn America dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl.

Daeth cynulleidfa anrhydeddus iawn ynghyd i glywed Dr Hunter yng nghapel Seion, Llanbradach, brynhawn Sul, 17eg o Ebrill. Ac unwaith eto gwelwyd nifer o wynebau newydd ymhlith y nifer sylweddol o bobl a fu'n cefnogi bron i holl weithgareddau' Cymdeithas Morgan John Rhys.

Darlith Cymdeithas Morgan John Rhys
Testun y ddarlith oedd, "Cymry America, Radicaliaeth a Gweledigaeth" a chawsom glywed am Gymry a oedd wedi mynd i ochr draw'r byd er mwyn cael byw eu delfrydau o gael rhyddid i addoli, i wrthwynebu caethwasiaeth a hiliaeth, i weld cydraddoldeb i ferched ac i gyd fyw â'r Americanwyr brodorol. Yn wir dywedwyd bod radicaliaeth yn mynd â Chymreictod. Cawsom ddysgu am gyfnodolion a gyhoeddwyd gan yr amryw enwadau a'r safbwyntiau a fynegwyd ganddynt ar bwyntiau llosg y dydd.

Cymysgu crefydd a gwleidyddiaeth
Diddorol dysgu mai un consyrn mawr am gaethwasiaeth oedd y pwnc llosg o gymysgu crefydd a gwleidyddiaeth. Blinai rhai na ellid byw'n gydraddol gyda phobl os oedd lliw eu crwyn yn wahanol! Teimlai eraill y byddai pobl ddu neu goch eu crwyn yn fwy cydnaws petaent o leiaf yn Gristnogion. Syndod oedd dysgu mai plaid radicalaidd oedd y blaid Weriniaethol yn America pan gafodd ei ffurfio ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyrrodd Cymry America y tu ôl i rengoedd y blaid honno am ei bod yn radicalaidd - ie, plaid George W.Bush!

Aeth Dr Hunter ymlaen i egluro, ymhlith llu o bethau eraill, fel y bu i etholiad 1856 yn ei dro arwain at y Rhyfel Cartref, a hynny i raddau helaeth oherwydd ei bod yn frwydr rhwng y carfannau oedd o blaid ac yn erbyn caethwasiaeth. Yn wir, gwelai rhai o'n cydwladwyr hon yn "Ryfel Sanctaidd", gan gefnogi Unoliaethwyr y Gogledd yn eu safiad yn erbyn caethwasiaeth a safbwynt y Cynghreirwyr. Profodd y prynhawn yn un o'r digwyddiadau gorau eto yng nghalendr blwyddyn y Gymdeithas. Cafodd y siaradwr gyflwyniad bywiog a hynny gan Gadeirydd y prynhawn, Dafydd Islwyn.

Yn sicr, cawsom ein hysbrydoli gan Jerry Hunter a fydd yn fodd o sicrhau bod digwyddiadau eraill wedi i'r rhaglen bresennol ddod i ben. Gweler manylion yn y rhifyn hwn o ddarlith yr Athro Geraint Jenkins yn Llanbradach ar 18fed o Fai am ein digwyddiad nesaf.

Gyda llaw, mae Dr Jerry Hunter yn darlithio yn yr ardal eto cyn bo hir. Nos Wener, 6ed o Fai, fe'i disgwylir yn Adeilad y Dyniaethau, Rhodfa Colum, Caerdydd yn traethu ar y testun, "The Great and Good Work Committed to His Hands - Robert Everett and the Abolition of American Slavery". Cafodd gwaith Everett cryn sylw yn y ddarlith yn Llanbradach a bydd y ddarlith hon, felly, o gryn ddiddordeb i'r sawl a oedd yno. Y cyfarfod i gychwyn am 7:00.

Nodiadau gan Ben Jones (ysg)


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy