Ddiwedd Mehefin fe aeth aelodau o Eglwys Gatholig Bargod ar daith helfa drysor. Cychwynnodd y daith ym Margod. Arhoswyd yng Ngelligaer i weld safle yr hen gaer Rhufeinig, cofeb i sylfaenwyr Ysgol Lewis a chofnodi blwyddyn adeiladu Capel Horeb. Oddi yno i lawr am Lancaiach Fawr, troi yn y Shingrig, Trelewis am Nelson. Mae'n syndod cymaint o leoedd sydd yng Nghymru yn dynodi gweithgarwch melinau dyddiau a fu. Holi yn Nelson am hanes y plaen pêl a godwyd yn 1865. Mae'r dull o chwarae yn weddol debyg i'r gem sboncen a trewir y bel a chledr y llaw neu'r dwrn. Dros y mynydd wedyn am Gwm yr Aber a Senghennydd a'i atgofion. I lawr y cwm drwy Abertridwr ac i Ene'r Glyn. Ar hyd y daith gofynnwyd i'r teithwyr gadw eu llygaid ar agor i weld nodweddion y cwm a'i gyfrinachau. O Ene'r Glyn teithiwyd i fyny'r cwm drwy Lanbradach, Ystrad Mynach, Hengoed, Tir y Berth, Glan y nant, Gilfach Fargod, Bargod, Deri a gorffen ym Mharc Cwm Darran. Ddechrau mis Medi daeth Archesgob Cymru y pryd hynny, Y Gwir Barchedig Rowan Williams i gadw gwasanaeth arbennig yn Eglwys St Paul, Abertysswg. Fe'i gwahoddwyd yno i ddathlu bod yr eglwys yn gant oed ac i ddwyn i gof y faith i 17 glowr gael eu lladd ym mhwll Maclaren Abertysswg tua'r un cyfnod. Eglurodd Dr Williams i'r eglwys fod yn gefn mawr i bobl mewn amser o argyfwng boed yn Abertysswg, Cwm Rhymni, 1902 neu yn Soham, Swydd Caergrawnt, eleni. Os darllenwch Eira Gwyn yn Salmon' gan Dafydd Ifans Aberystwyth - cyfrol y Fedal Ryddiaith yn y Genedlaethol, Caerfyrddin 1974 fe welwch mai yn Soham yr oedd prif gymeriad, awdur y llythyrau, Siôn Prys yn byw yn yr ail ganrif ar bymtheg. A sôn am Dr. Williams yn dwyn i gof adroddiad am daith Blwyddyn 3 Ysgol Gilfach Fargod, yr un gynradd Saesneg i Eglwys Gadeiriol Gwynllyw Casnewydd. Meddai'r adroddiad yn y Gilfach Gazette' - papur newyddion yr ysgol. Fe aeth Blwyddyn 3 i Eglwys Gadeiriol Gwynllyw. Y lle cyntaf yr aethant iddo oedd y Festri. Gwisgwyd Luc fel offeiriad. Yna aeth Blwyddyn 3 i weld Ffenestr y Gwahanglwyfus. Dywedodd Miss Green bod y plant wedi ymddwyn yn arbennig o dda a hefyd Mr Bartlett. "Trip ardderchog," eglurodd y plant. "Gawn ni fynd i weld Eglwys Gadeiriol arall plis?" Sôn am ysgol, mae dwy ysgol wag ym Margod. Adeiladau gwag ger y parc ac un yn Heol Llancayo hen Ysgol y Graig. Yma bu Mr Tîm Jones yn ehangu gorwelion plant Bargod am dri deg pump o flynyddoedd. Ymddeolodd yr ha' hwn. Fe dalodd y Rhymney Valley Express deyrnged iddo. Ond nid gogleddwr ydy Mr Jones, fel y dywedodd y papur wythnosol! Pe tae wedi ei eni yn y Gogledd mi fuasai gwell graen o lawer ar dim rygbi Ysgolion Cwm Rhymni. Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein papurau lleol a diolch am bob erthygl sy'n sôn am Gwm Rhymni.
 |