BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Y CymoeddEnwogion a gofir
Hydref / Tachwedd 2008
Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu erthygl i bapur bro yn Eisteddfod y Cymoedd eleni. Dyma ddetholiad o'r erthygl fuddugol.

Canmolwn yn awr y gŵyr enwog .........

Enwir strydoedd ac adeiladau cyhoeddus yn aml iawn er mwyn cofio pobl deilwng a fu'n adnabyddus yn ystod cyfnod penodol mewn hanes.

Rydym ni yma, yn ardal Eisteddfod y Cymoedd â chyfoeth o enwau sydd yn goffadwriaeth i lewion oesoedd a fu. Cyn ei hail-fedyddio'n 'Ystâd Ddiwydiannol Caerffili, 'Ystâd Ddiwydiannol Harold Wilson' oedd hen adeiladau Cwmni Rheilffyrdd, Rhymni. Ond a ydyn ni'n cofio pwy yw'r holl enwogion hyn y ceir coffa mor ddiffuant ohonynt?

Ceir sawl coffa yn yr ardal hon i bensaer y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, wrth i ni eleni gofio chwe deg mlynedd sefydlu'r gwasanaeth hwnnw. Yn nhref Caerffili cawn Heol Aneurin, sy'n arwain o Glwb Llafur Aneurin bob cam i fyny i ben ystâd dai Penyrheol. Ac mae pobl Gelligaer yn ymhyfrydu yn Aneurin Bevan Avenue, stryd hiraf y pentref.

Ond ym Mharc Lansbury, yng nghanol tref Caerffili ceir nifer helaeth o enwau nad oes odid neb yn cofio, bellach, pwy oedden nhw. Ceir patrwm digon clir ar gyfer enwi'r stryd: enwau gwleidyddion amlwg y Blaid Lafur Brydeinig ydyn nhw i gyd.

Ond pam ddewiswyd enw George Lansbury ar gyfer enw'r ystâd o agos i fil o dai pan fo'r Prif Weinidog Llafur cyntaf, o'r un cyfnod, Clement Atlee, ond yn teilyngu cael ei gofio yn enw un clôs? Credir mai'r rheswm yw i George Lansbury, cyn dod yn arweinydd cenedlaethol ar ei blaid, weithio dros y tlodion. Daliai ef, tra'n Faer Bwrdeistref Poplar yn Llundain, na fyddai tlodion yn cymryd mantais annheg pe ddarperid yn ddigonol ar eu cyfer yn y wyrcws. Cafodd cynghorwyr eu carcharu am y fath gabledd! Ond drwy fwrw ymlaen â'r hyn a ddaeth yn hysbys fel 'Poplarism', gwyrdrowyd yr arfer lle codwyd mwy o drethi lleol ar y tlodion, am mai nhw oedd vn elwa o'r trethi hynny! Aroloeswyr yn wir.

Ac felly wrth fynd am dro o gwmpas yr ystâd hon a godwyd yn chwe degau'r ganrif ddiwethaf, gwelir enwau fel Graham Court, Wedgewood Court a Hartshorn Court ac eraill.

Atlee Court

Clem Atlee, yn ddiau yw'r mwyaf adnabyddus o'r holl enwau. Ef, wrth gwrs, arweiniodd y Blaid Lafur i fuddugoliaeth a oedd mor ysgubol ag a oedd yn annisgwyl] yn 1945. Bu'r Blaid Lafur mewn grym, dan ei arweiniad tan 1951. Cyfnod oedd hwn pan wladolwyd y diwydiannau glo a haearn yn ogystal â'r rheilffyrdd. Gweinyddiaeth oedd hon lle daeth dau Gymro yn anfarwol. Soniwyd eisoes am Aneurin Bevan ond, llawn mor bwysig, oedd Deddf Yswiriant Cenedlaethol James Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy