BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Ceflun The Washington MonumentTaith i'r Amerig
Ionawr / Chwefror 2007
Adroddiad am daith 'fythgofiadwy' disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i Washington DC ac Efrog Newydd, Heledd Brooks-Jones
Ar ôl misoedd a misoedd o aros yn amyneddgar, ar bigau'r drain eisiau i'r wythnosau symud yn gyflymach, o'r diwedd fe ddaeth y 27fed o Dachwedd gyda'r profiad mwyaf arbennig erioed i'w ddilyn. Erbyn 2 o'r gloch (hanner awr yn gynnar) mi roedd pawb fwy neu lai yn eistedd llawn cyffro ar y bws, yn ysu i'r gyrrwr ddechrau gyrru er mwyn dechrau'r daith fythgofiadwy. Er bod pawb yn brin o gwsg, mi roedd pawb, llawn bywyd, yn barod i fynd.

Ar yr awyren, wrth lanio yn yr U.D.A, mi rwyf i'n cofio gweld y tir am y tro cyntaf a dyna pryd sylweddolais mawredd y sefyllfa. Roeddem ni wedi cyrraedd America. Fe ddeffrodd pawb o'u trwmgwsg ac fe ddechreuodd bwrlwm y bws unwaith eto. Doedd y merched hyd yn oed ddim yn pryderu am eu gwallt na'u colur (er ein bod ni'n edrych yn weddol 'rough'), roedd pawb yn barod i fwynhau wythnos o flasu bywyd Americanaidd, (a'r bwyd wrth gwrs).

Cyrhaeddom ni'r gwesty yn Washington D.C, pawb yn ddiolchgar i gael seibiant a phrofi pa mor gyfforddus oedd y gwelyau. Ond, yn nodweddiadol o'r daith i gyd, nid oedd gormod o amser i fod yn ddiog. Aethom i'r Food Court yn Union Station ar y metro, lle profais i Coca Cola 'large' Americanaidd (bwced o hylif) am y tro cyntaf, a lle roedd cyfle i brynu tocynnau sinema am y diwrnod canlynol. Yna, nôl i'r gwesty er mwyn cael noson dda o gwsg haeddiannol (opsiynol), neu gymdeithasu. Dewisodd pawb yr opsiwn cyntaf wrth gwrs!

I fyny am 6.30 y bore wedyn, fe leddfodd y brecwast blasus y blinder ac roedd pawb yn barod i weld y golygfeydd gyda chymorth ein tywyswr gwybodus - y Tŷ Gwyn a'r cofebau i gyd. Roedd lot o gerdded ond nid oedd yr un cwyn, sy'n adlewyrchiad o'n mwynhad. Yna aethom i Amgueddfa'r Holocost lle cawsom flas ar hanes a chawsom y cyfle i gael gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ein gwaith cwrs Lefel-A. Ar ôl prynhawn eithaf afiach, roedd noson hwyl o chwarae gemau yn ESPN zone, cyn mynd i wylio ffilm yn y sinema.

Gyda diwrnod 3 fe ddaeth taith o amgylch adeiladau llywodraethol Washington lle cawsom ni lun tu allan i'r Capitol Building. Roedd y tywydd yn braf ac fe fwynhaodd pawb y profiad. Ar ôl cael Pizza ENFAWR yn Yr Hen Swyddfa Bost, roedd modd i ni ddewis pa amgueddfa ddiwylliannol oedd well gennym ni i ymweld. Fe ddewisodd y rhan fwyaf o bobl i fynd i siopa (syrpreis, syrpreis) ond fe aeth eraill i'r Amgueddfa Ysbio, Celf a'r Amgueddfa Gofod. Ar ôl diwrnod llawn o gerdded roedd pawb eisiau bwyd. Aethom i Chinatown i gael pryd o fwyd Tseiniaidd. Blasus iawn.

Adeilad yr Empire StateAr ddiwrnod 4, roedd rhaid i ni ffarwelio â Hotel Harrington yn Washington a dweud 'Hylo' i Efrog Newydd. Ond nid yn syth. Stopiodd y bws yn Philadelphia tu allan i risiau Rocky, lle trechodd Mr Webb y bwrsar, Mr Phillips gan osod llwyfan ar gyfer ei bryfocio am weddill y daith. Treulion ni 3 awr yn Franklin Mills shopping mall, lle roedd bargeinion di-ri ar gael a chyfle i brynu anrhegion, a dillad i ni wrth gwrs. O'r diwedd, yn teithio tra'n canu i Frank Sinatra, New York, fe gyrhaeddon ni westy moethus y Beford, yn Efrog Newydd . Wrth i'r nos ledu dros y ddinas, aethom i'r Hard Rock cafe, gan werthfawrogi mawredd y lle with gerdded yno. Rhyfeddol.

Nid oedd unrhyw beth yn medru ein paratoi ar gyfer heddiw. Y daith gyntaf o amgylch golygfeydd Manhattan lle gwelon ni'r Empire State Building, Chrysler Building, Rockefeller Centre a nifer o lefydd eraill. Yn ystod y prynhawn, yr oedd gennym y cyfle i weld Efrog Newydd ar y Circle Line Cruise - cyfle arbennig i dynnu lluniau. Gan mai heddiw oedd diwrnod Calan Gaeaf, trefnodd yr athrawon noson anhygoel yn nhŷ bwyta Jekyll & Hyde, lle roedd adloniant addas. Ar ôl hynny, aethom i ben yr Empire State Building a gweld Efrog Newydd o'r 86ed llawr. Er fod gen i ofn uchder, roedd yn brofiad ysgubol.

Ar ôl llond plât o frecwast yn Scotty's Diner, aethom i gwrdd â'r tywyswyr cyn mynd ar daith gerdded o amgylch Lower Manhattan. Fe stopion ni mewn cafe yn Little Italy lle roeddent yn gwerthu cacen gaws Americanaidd (maint bric). Blasus iawn. Yna aethom i weld Ground Zero ac roedd hyn yn brofiad trawiadol. Yr oedd cyfle unwaith eto yn ystod y prynhawn i siopa a chael rhywbeth bach i fwyta wrth edrych allan ar Bont Brooklyn o Pier 17. Yn ystod y prynhawn roedd dewis unwaith eto, ond y dewis mwyaf deniadol oedd siopa yn Macy's.

Fel uchafbwynt i'r noson, trefnodd yr athrawon Limousines i'n cludo ni i Broadway i wylio'r sioe, Hairspray. Roeddem yn teimlo fel enwogion wrth deithio trwy Times Square mewn rhes o Stretch Limos. Roedd y sioe yn fendigedig, ac i orffen y noson yn berffaith, cerddodd pawb i Dŷ Bwyta Gwyddelig er mwyn trafod y sioe a mwynhau pryd o fwyd.

Ein diwrnod olaf yn y 'ddinas sydd byth yn cysgu', ond eto roedd trefniadau ar ein cyfer. Taith o amgylch y Cenhedloedd Unedig oedd ar y teithlyfr wedi'i ddilyn gan siopa. Roedd pawb yn flinedig ond yn awyddus i ddangos eu brwdfrydedd hyd at y funud olaf. Erbyn 2 o'r gloch y prynhawn roedden ni ar ein ffordd i'r Maes Awyr. Cysgodd pawb fwy neu lai ar hyd y daith adref i gyd, wedi blino ar ôl cyffro taith orau eu bywydau, siŵr o fod.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy