Mae blwyddyn neu ddwy, bellach ers i Mr Aneurin Thomas ddathlu ei ganfed pen blwydd ond mae'n rhyfeddol o heini yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn dal i fyw ar ei ben ei hun yn ei gartref y tu ôl i gastell Caerffili. Magwyd Aneurin yn Fochriw a oedd yn bentref Cymreig iawn ond prin yw'r cyfle mae'n cael i arfer ei Gymraeg erbyn hyn. Mae ei Gymraeg, beth bynnag, fel dŵr ffynnon a'i gof fel cloch ac mae ganddo storïau... Oedd, roedd e'n gallu canu'r piano a chanu. Yn fachgen bach roedd yn ennill cymaint o wobrau mewn eisteddfodau a'r "semi Nationals" roedd pant eraill yn gwrthod cystadlu yn ei erbyn, a hynny er ei fod yn cystadlu yn nosbarth dan 16 pan oedd ond yn 10.
A dweud y gwir disgwyliai ei Brifathro yn Ysgol Lewis, a'i dad a oedd yn gynghorwr ar Gyngor Gelligaer, iddo fynd yn 'Concert Pianist' ond er i'r Athro Prifysgol E.T.Davies (Bangor) a'r Athro D.J. De Lloyd (Caerdydd) ddod i wrando arno'n canu'r piano (yng nghartref ei brifathro Mr D. Vaughan Johnson M.A.) ni chafodd yr hyfforddiant. Pam? Am nad oedd am fynd yn bianydd proffesiynol. Roedd am efelychu ei athro Tom Jones o Bontlottyn. Felly, methodd ei arholiadau ar Hanes Cerddoriaeth yn fwriadol drwy ysgrifennu hanes y cyfansoddwr anghywir!
Bant ag e i Goleg Caerllion. Yno gwnaeth lawer o waith y darlithydd a oedd yn rhy brysur yn beirniadu mewn eisteddfodau. Bu hefyd yn Gefnwr Chwith yn y tîm pêl droed ac mewn un gêm griced cymerodd ddeg wiced y gwrthwynebwyr! Cafodd y stydi orau yn y coleg am ei fod yn olygydd cylchgrawn y coleg, "Isca".
Ond mynd i Loegr, ac i Donacaster, bu'n rhaid iddo 1926. Bu'n aros yno gyda theulu oedd â dwy ferch, Mary (10) a Florence (17). Daeth y teulu i aros wythnos gyda'r teulu Thomas yn Fochriw. Flynyddoedd wedi hynny roedd cyfnither i Aneurin yn nyrsio yn Lloegr pan ddaeth Lady Cadbury o gwmpas yr ysbyty a digwydd gofyn iddi o ble roedd hi'n dod. Atebodd honno'n wylaidd ei bod yn dod o Gymru. 'Ble yng Nghymru?' holodd y Fonesig. Pentre bach glofaol yn y De, atebai'r nyrs. Pa bentref? Oedd y cwestiwn nesa ac o ddeall fod y nyrs ifanc yn dod o Fochriw am wythnos gyda'i Thomasiaid. Y Florence y bu Aneurin yn aros gyda'i theulu oedd wedi priodi i mewn i'r teulu enwog hwnnw!
Aeth yn ôl i Doncaster ar ôl ymddeol bron i hanner canrif wedi gadael y lle, ac wedi gwneud ymholiadau wrth ddyn ar ymyl y ffordd lle'r oedd yr ysgol adnabu hwnnw Aneurin fel ei gyn athro a gwnaeth y datganiad uchod sy wedi dilyn y cyn athro drwy ei fywyd, "You're the Welshman who couldn't sing but was marvellous on the piano".
Dychwelodd i Gymru i swydd yn Ysgol y Twyn, Caerffili ond cafodd ddamwain gas ar ei feic modur yn fuan wedi dechrau yno. Penderfynodd ei deulu na allai bellach deithio'n ddyddiol o Fochriw a symudodd y teulu i Gaerffili. Aeth Aneurin a'i "lythyr" o Garmel, Fochriw i Fethel. Clywyd am ei allu cerddorol a gofynnwyd iddo ganu'r organ mewn `recital'. Ond ar ôl cytuno sylweddolodd nad oedd e'n gallu canu'r offeryn hwnnw ac fe gerddodd yn syth allan - a dyw e ddim wedi bod yn y capel ers hynny!
Adeg y rhyfel methodd ymuno a'r lluoedd arfog ac aeth ati ddatblygu'i fand enwog, "Aneurin Thomas and the Collegiates". Bu'n cystadlu'n llwyddiannus iawn a chynnal cyngherddau i godi morale adeg y ryfel yn enwedig yn y ffatrïoedd arfau. Diwedd y stori oedd i'r Arweinydd briodi ag ysgrifennydd y Band! A dweud y gwir ond wythnos cyn y cyfweliad hwn y gwerthodd e ei biano.
Dathlwyd ei ymddeoliad o Ysgol yr Hendre yn 1970 â pharti, a phwy ddaeth yno oedd neb llai na'r diddanwr enwog Dick Emery oedd yn digwydd bod yn ymddangos yn Theatr Newydd Caerdydd ar y pryd ac yn hen ffrind i Aneurin.
Pan oedd yn 90 trefnodd rhai o'i gyn ddisgyblion, Len Pash, Gwyn George, David Hughes ac eraill, y bu'n eu dysgu yn Ysgol Cwmaber, barti yn y clwb golff lle daeth nifer o gyn ddisgyblion eraill ynghyd.
Erbyn hyn mae ei fab, Phillip, wedi ymddeol ac wedi'i wneud yn Athro Emeritws yn y Gyfraith gan Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Magodd yntau ei blant i siarad Cymraeg gan eu gyrru i Ysgol Gyfun Llanhari. Mae Dafydd yn ŵr busnes llwyddiannus yn America a Rhian sy'n gyfrifol am fyfyrwyr tramor ym Mhrifysgol Caerdydd. Felly, mai prin yw'r cyfle caiff Mr Thomas i siarad Cymraeg hyfryd Fochriw caiff wneud hynny gyda'i wyrion.