BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Tim rygbi Ysgol Gymraeg Gilfach FargodPencampwyr Rygbi o Fargod
Mehefin 2003
Llongyfarchiadau cynnes i dim Ysgol Gymraeg, Gilfach Fargod ar eu buddugoliaeth lawr ar faes rygbi enwog y Strade, Llanelli.

Bu cystadlu cryf yn Nhwrnamaint Cenedlaethol yr Urdd ar Fai 10fed ac fe fydd ennill y tlws yma yn galondid i dimoedd Dwyrain Cymru ac yn glod i'r ysgol. Tîm lleol Llanelli oedd yn eu herbyn ac roedd curo Ysgol Dewi Sant yn profi bod gan fechgyn Gwent ddoniau trafod arbennig.

Mae'r tîm a welir isod yn cael ei hyfforddi gan Mr Ioan Dyer, sydd ar staff yr ysgol. Yn ôl pob son bu dathlu mawr yng Nghlwb Rygbi Bargod yn ddiweddarach yn y mis, ac i bawb fwynhau'r achlysur.

Pwy a wyr na fydd rhai o'r tîm yma yn chwarae rygbi dros dimoedd yn yr Uwch adran rhyw ddydd, ac mae'n siwr bydd staff presennol yr ysgol gyda'r cyntaf i roi gwybodaeth i Tua'r Goleuni. Oni fyddai'n hyfryd gweld y disgyblion hyn yn datblygu a chwarae i dimoedd Ysgolion Uwchradd Cymru yn ystod yr wyth mlynedd nesaf.

Beth am gael adroddiadau cyson oddi wrth yr Ysgolion Cynradd a'r Ysgol Uwchradd am eu hynt ar feysydd y campau? Mae'n sicr bydd darllenwyr Tua'r Goleuni yn awyddus i wybod amdanynt, ac i weld lluniau rhai ohonynt.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy