| Gan ein bod wedi cael wythnos iach hynod lwyddiannus penderfynwyd i barhau gyda'r thema yma ac ymweld â Asda fel ysbrydoliaeth i danio dychymyg y plant. Gweithiodd hyn i'r dim gyda'r plant yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn syniadau cyffrous. Yna fe cawson nhw brynhawn o weithio gyda Mererid i gynhyrchu barddoniaeth o'r safon uchaf. Dywedodd Mrs. John fod hi a'r plant wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr iawn. Roedd Mererid yn llawn clod am agwedd ag ymateb y plant iddi hefyd. Adroddiad Lynn Griffiths (Prifathro).
 |