Ymddengys bod Angharad Price, enillydd Medal Ryddiaith 2002, yn driw i'r un traddodiad hwn. Cafwyd mwynhad o ddarllen ei chyfrol gyntaf, "Tania'r Tacsi" (tt.98), ond pleser llawer iawn mwy oedd darllen ei hoffrwm eleni sef, "0! tyn y gorchudd" (tt.140).
Pleser o'r mwyaf oedd cael bod yn bresennol yn Llyfrgell Bargod, nos Iau, 27ain o Fawrth achael clywed y Dr Angharad Price yn sôn am y cefndir i'r llyfr. Daeth cynulleidfa anrhydedduso rhyw 35 at ei gilydd a chawsant fwynhad o glywed yr awdur ac o weld darn o ffilm adynnwyd ym Maesglasau yn ystod y chwedegau.
Mae'r gyfrol yn adrodd hanes ei theulu ac yn dweud am gartref y teulu hwnnw yn Nhynybraich, Cwm Maesglasau, cwm yn ardal Dinas Mawddwy. Gwelir yr hanes drwy lygaid Rebecca Jones, chwaer taid yr awdures. Mae gyrfa hon mwy neu lai yn cyd-rhedeg â'r ugeinfed ganrif. Dim byd yn anghyffredin a hynny hyd nes y datgelir ar ddiwedd y gyrfrol, "Bu farw Rebecca Jones yn 1916. Roedd yn un ar ddeg oed. Teyrnged i'r bywyd y gallai fod wedi ei gael yw'r gyfrol hon."
Mae'r hanes sy'n agor o'n blaenau, drwy lygaid Rebecca yn creu cyfrol sydd yn deimladwy heb fod yn sentimental. Genir dau o'r brodyr yn gwbl ddall tra bod trydydd yn colli ei olwg tra'n dal yn blentyn. Y tristwch mwyaf efallai, yw hod y cyflwr sy'n achosi'r dallineb yn ail ymddangos pob yn ail genhedlaeth a dysgwn, felly, bod wyrion y brodyr yma'n dioddef yr un ffawd.
Mae hynt y tri brawd yn ganolog i'r naratif wrth reswm. Ant i ffwrdd i Goleg y Deillion yng Nghaerwrangon er mwyn derbyn hyfforddiant ar gyfer ymdopi â'u cyflwr. Er y fath anabledd macnt yn llwyddo'n anhygoel o dda. A un i mewn i'r eglwys tra hod un arall yn gweithio an gyfieithu llyfrau i mewn i'r Braille a, felly, parhau yng Maesglasau. Mae'n debyg bod y trydydd brawd a anwyd gyda'i olwg wedi dod yn artist, drwy gofio'r hyn a welodd cyn colli'i olwg. Yntau'n dal i fyw yn Nottingham a'i atgofion wedi cyfrannu'n sylweddol at gynnwys y llyfr.
Hanes y teulu, ond eto trwy lygaid rhywun a fu farw cyn i'r stori gychwyn yn iawn? Ble mae'r hanes gwir yn diweddu a'r ffuglen yn cychwyn? Un dechneg sicr a ddefnyddir yw cynnwys lluniau o'r teulu, y fferm a mannau ym Maesglasau en mwyn cynnal cyswllt pendant â ffeithiau hanesyddol. Ar sail yr wybodaeth hon o'i llinach y llwyddodd Angharad Price lunio'r hanesyn.
Rhaid ymhyfrydu nid yn unig yn y ffaith i'r Eisteddfod yn fodd i ddod â chystal cyfrol i mewn i'n llenyddiaeth ond o ddysgu bod y gweisg Cymraeg ar ôl awduron dwy gyfrol bellach yn y gystadleuaeth, "Rhywun Arall" a'r "Brenin Du" a fu'n agos iawn i'r brig. Gobeithiwn, nawr, am ymddangosiad y ddau hunangofiant hynny.
Diddorol oedd gweld lluniau o Faesglasau ar y rhaglen "Dechrau Canu, Dechrau Canmol" adeg y Nadolig. Yn wir, awgrymodd Hywel Teifi Edwards, yn ei feirniadaeth, yn ein sicrhau y "bydd cwm Maesglasau... bellach yn rhan o'm Cymni lenyddol i." Prin y gellir talu clod uwch i'r gyfrol na dweud bod y sawl a'i darllenodd yn ysu am gael ymweld â'r cwm hwnnw.
Gyda llaw, cawsom wybod pam mae rhai o'r cyfrolau hyn mor denau. Caiff yr awdur y testun ym mis Awst ac mae'n rhaid i'r llawysgrif fod yn nwylo swyddogion yr eisteddfod erbyn y Nadolig. Syndod, a dweud y gwir, nad ydynt yn fyrrach fyth!