Dyma'r bumed gwaith mae'r ysgol wedi mynd i wneud Gwaith Maes Daearyddiaeth yn y Gwersyll ac yn yr holl amser yno rydym wedi cael tywydd bendigedig, ac roeddem yr un mor lwcus eleni. Er mwyn rhoi digon o gyfleoedd i'r plant gymharu Llangrannog fel pentref ger y môr â Chaerffili fe gafodd y plant ddigon o gyfleoedd i fynd i lawr i'r pentref i arsylwi'r arfordir, mesur tymheredd y twr, cyflawni gwaith arbrofol ar y traeth a chyflawni gwaith ymchwil ar ddatblygiad Llangrannog. Yn y boreau cafodd y plant gyfleoedd i gofnodi'r wybodaeth yma yn eu llyfrau gwaith oedd wedi cael eu paratoi gan Miss Cerys Jones, Cydlynydd Daearyddiaeth yr ysgol gyda help staff y Gwersyll.
Ar ôl gweithio aeth y plant i fwynhau'r gweithgareddau cyffrous sy'n cael eu cynnig yn y gwersyll fel sgïo, sglefrolio, marchogaeth ceffylau, beiciau "Quad", rasio ceir, nofio. Roedd nifer o weithgareddau hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r plant ddatblygu eu sgiliau cydweithio a daearyddol megis gweithio ar raffau mewn coedwig, helfa drysor a chyfeiriannu - "Orienteering". Digoni wneud i sicrhau amser bythgofiadwy i blant a staff yr ysgol. Eleni roeddem yn aros yn yr Hendre gyda'n gilydd ac roedd ansawdd yr ystafelloedd cystal ag arfer. Fel staff roeddem yn hapus iawn gyda ymddygiad holl blant yr ysgol ac roedd yn braf clywed staff y gwersyll yn canmol ein plant am eu cwrteisi a'u brwdfrydedd trwy gydol yr wythnos. Roeddem hefyd yn hapus i glywed staff y gwersyll a Steff, y Pennaeth yn dweud eu bod yn edrych ymlaen i weld ni'n dychwelyd ym mhen dwy flynedd - rwy'n cyfri'r dyddiau yn barod! Ar ddiwedd pob dydd cawsom wasanaeth i gofio am bopeth cyffrous oedd wedi digwydd, roedd hyn hefyd yn cyfle i roi tystysgrifau i'r plant am eu hymdrechion yn ystod y dydd neu am fod yn garedig i eraill. Paratôdd disgyblion dosbarth Mrs John wasanaeth arbennig ar y diwrnod olaf er mwyn ein hatgoffa bod y Pasg yn amser pwysig i gofio am fywyd lesu Grist Hoffwn ddiolch i'r plant am wneud yr wythnos yn un mor arbennig ond hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i staff yr ysgol am weithio mor galed drwy gydol yr wythnos. Roedd pob un ohonynt yn y gwely am 7 o'r gloch ar nos Wener. Eleni fe aeth Mrs John, Mrs Hughes, Miss Jones, Mr Richards a Mr Davies gyda 71 o blant o'r ysgol - dipyn o griw. Lynn Griffiths
 |