 |  |  | Traphont yr Hengoed i frasgamu at y dyfodol Mai 2004 Mae un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o beirianneg y rheilffyrdd yng Nghymru ar fin gweld dyddiau gwell, diolch i grant o £870,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru. |  |  |
 | Gwerthwyd Traphont yr Hengoed am £1 ar ôl i lein Dyffryn Taf gau ddeugain mlynedd yn ôI. Heddiw, mae'n llwybr poblogaidd ar Lwybr Celtaidd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Wedi hen fynd y mae'r dyddiau pan gludai trenau stêm y glo Gwm Rhymni ar draws y draphont, traphont a godwyd gan Liddell & Gordon ym 1857 ar gyfer Rheilffordd Casnewydd, y Fenni a Henffordd.
Bellach, bydd modd gweithredu rhaglen fawr i sicrhau a gwella dyfodol traphont sydd ag un bwa ar bymtheg. Mae'n un o'r hynaf o'r traphontydd o'r math hwn sydd wedi goroesi, ac yn ddiweddar fe' i huwchraddiwyd i statws rhestredig Gradd 2*.
Wrth ddyfarnu'r grant i'r prosiect, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r perchnogion, Railway Paths Cyt meddai'r Athro Tom Pritchard, Cadeirydd y Gronfa Dreftadaeth yng Nghymru, "Go brin hod unrhyw beth sy'n ein hatgoffa mewn ffordd mor rymus o dreftadaeth rheilffyrdd a meysydd glo Cymru, a phrin yw'r adeiladweithiau sy'n gosod stamp eu hunaniaeth a'u hanes mewn ffordd mor drawiadol ar eu cyffiniau.
"Wrth ddathlu 200 mlynedd ers dechrau oes y rheilffyrdd ym Mhrydain, mae'n braf gallu helpu i warchod gorffennol y draphont, cynyddu'r defnyddio sydd arni erbyn hyn, a sicrhau ei dyfodol i'r cenedlaethau a ddaw."
Meddai Phil Williams, sy'n arwain y prosiect ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Peth gwirioneddol braf yw cael cyfle i ddiogelu'r draphont fawr hon gan iddi fod yn gymaint o nodwedd ar ran ganol Cwm Rhymni am bron 150 o flynyddoedd.
"Ers i'r Draphont gael ei hagor i'r cyhoedd yn 2000, mae trigolion Maesycwmer a'r Hengoed, ac ymwelwyr, wedi defnyddio llawer arni. Nid yn unig y cewch chi olygfeydd gwych oddi arni, ond mae'n galluogi pobl i groesi'r cwm yn rhwydd ac yn annog teuluoedd i ddefnyddio'r Llwybr Beicio Cenedlaethol rhwng y parciau gwledig cyfagos ym Mharc Penallta a Chwm Sirhywi.
Bydd grant y Gronfa'n talu am atgyweiriadau a gwaith ailbwyntio ar waelodion y pileri, y parapetau a'r bwâu, yn ogystal ag atgyweirio gweddillion Gorsaf Lefel Uchel yr Hengoed ym mhen gorllewinol y draphont. Bydd y gwaith yn cynyddu mynediad a diogelwch y cyhoedd drwy godi ffensys newydd, llwyfannau gwylio a goleuadau.
Nodiodau Jill Roberts
 |  |  |  |
| 
|