BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Cwmni Drama Cwm NiCwmni drama Cwm Ni
Gorffennaf 2004
Daeth cynulleidfa dda ynghyd i weld perfformiad cyntaf Cwmni Cwm Ni o 'Golch Wythnos Nesa', sef gwaith diweddaraf yr awdur lleol, Ben Jones.

Mae'r ddrama yn portreadu hynt a helynt 'Unwin's Undies', sef cwmni dillad isaf sy'n mynd i drafferthion ariannol. Mr Unwin (Denzil John), ymgorfforiad o sofenistiaeth ar ei waethaf, sy'n cael ei fychanu yn y diwedd, a hynny dan gynllwyn ei staff sef Debra (Nia Parsons), Muriel, (Ann Lewis), Dewi (Gareth Williams) a Robert (Ben Jones).

Mae Mrs Unwin (Ellen Barrar) yn ymddangos cyn y diwedd, ac mae Fred Simpson (Fred Brooks) yn cyfrannu at ddoniolwch y cyfan. Cyfarwyddwr y perfformiad yw Allan Cook gyda Peter Davies yn gyfrifol am y gwaith sain a'r goleuo. Mary Jones fu'n gyfrifol am y dylunio gyda Fred Brooks yn gyfrifol am adeiladu a chludo'r set.

Roedd disgwyl i'r cwmni gyflwyno'r ffars yn Theatr y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y prynhawn Sadwrn olaf am 3.00pm ac mae'n debygol y bydd y cwmni yn ei chyflwyno yn ystod tymor yr Hydref mewn canolfannau eraill yn y de ddwyrain. Pe bai digon o alw, efallai y gellir perswadio'r cwmni ei chwarae eto yn Nhonyfelin.

Dymuna'r cwmni ddiolch i weinidog ac aelodau Eglwys Tonyfelin am eu cefnogaeth barod a gwerthfawr drwy ganiatáu defnydd o'r festri gefn, lleoliad llawer o gyflwyniadau dramatig dros y degawdau.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy