Pwrpas y daith oedd ymweld â llefydd yn ymwneud â'u cwrs AS Cymraeg. Ar y ffordd i fyny i'r Gogledd cawsant gyfle i ymweld â Chilmeri tu allan i Lanfair ym Muallt a chartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd. Ar y noson gyntaf eleni roeddent yn aros yng Ngwersyll yr Urdd, Glanllyn. Cyfle i ymlacio a chwrdd a'r disgyblion eraill. Bore Gwener aethom draw i Lanrwst i weld beddrod Llywelyn Fawr yn yr Eglwys. Cinio yng Nghonwy ac yna aethom i Abergwyngregyn i ymweld â Phenybryn, Llys Llewelyn Fawr a Siwan. Cafodd y disgyblion wers fendigedig ar hanes Cymru gan Catherine Gibson, perchennog y tŷ. Draw wedyn i Nant Gwrtheyrn a chyrraedd wrth i'r haul fachlud dros y cwm. Ar fore Sadwrn aethom draw i Ynys Môn i weld arch Siwan yn Eglwys Biwmares ac ymweld a Llanfairpwll ac yna phrynhawn rhydd yng Nghaernarfon. Nos Sadwrn aethom i Bare Glasfryn i fowlio 10. Cawsom swper yno a chyfle i weld gêm De Affrica v Lloegr a phawb wrth gwrs yn awyddus i weld De Affrig yn ennill. Cychwyn adre bore Sul trwy Ryd Ddu i weld cartref T H Parry Williams a Beddgelert. Diolch i Ysgol Gyfun Cas-gwent, Tredegar, Basaleg a Chil y Coed am eu cwmni ar y daith. Cwrs llwyddiannus dros ben gyda thywydd bendigedig a phob man yn edrych yn wych yn yr haul. Helen Greenwood, Urdd%20Gobaith%20Cymru.
 |