Bu'r daith gyntaf yn rhan o ddathliad pen-blwydd Sara yn 21 oed, gan deithio yn un a wledydd tlawd cyfandir Affrica. Cafodd y ddwy chwaer gyflwyniad i anghenion addysgol plant lle nad oedd cyfarpar sylfaenol yn Ysgol Gynradd Yakanu. Eglurodd Mr Kandeh, cyfarwyddwr yr ysgol sut oedd noddwyr o'r Iseldiroedd wedi talu am y tir, a gosod sylfeini ar gyfer y wedd gyntaf o adeiladau, a bod angen datblygu'r adeilad er mwyn cynnig mwy o le i addysgu'r disgyblion. Bu farw'r noddwr cyn iddo fedru cyfrannu mwy o arian, ac fe dderbyniodd Debbie Hendy ysgrifennydd Tonyfelin, Caerffili a'i chwaer yr her i sicrhau cyfalaf digonol i barhau gyda'r gwaith. Dychwelodd y ddwy i Gaerffili a chyflwyno'r apêl yn Nhonyfelin, ac fe gafwyd cefnogaeth eglwysi eraill Cylch y Gymanfa Ganu ynghyd â dwy Ysgol Gymraeg Caerffili, ac yn fuan fe wireddwyd y nôd fel bod modd anfon mil o bunnoedd allan i Gambia. Casglwyd dros £400 yn y swyddfa 118UK lle mae Sarah yn gweithio ac fe wireddwyd £240 pellach yn Nhonyfelin. Penderfynodd y ddwy fynd allan, ar wahoddiad yr ysgol i agoriad swyddogol yr uned newydd. Teithiodd Keith Kendy allan hefyd yn gwmni i'w wraig a'i chwaer yng nghyfraith ar gyfer yr agoriad swyddogol, gan dderbyn croeso gwresog cymuned gyfan. Bu'r agoriad yn lliwgar gyda gwasanaeth yn cynnwys cyfraniad gan Iman Mwslimaidd a hefyd gan weinidog yr Eglwys Efengylaidd leol. Roedd heddwch rhwng y crefyddau gyda pharch at gredoau ei gilydd i'w weld yn y cyfarfod, ynghyd â dyhead i weld y plant yn derbyn addysg safonol. Gwahoddwyd Debbie Hendy i dorri'r rhuban yn yr agoriad swyddogol a thystiolaeth y tri o Gaerffili oedd mai braint oedd uniaethu eu hunain gyda'r fenter fawr o agor drws gobaith a chefnogi'r ysgol yn Yakanu. Os digwydd bod rhywrai am gyfrannu at barhad y gwaith, yna gellir cysylltu gyda Debbie yn 126, Ffordd Bedwas, Caerfilli, CF83 3AU. Er bod yna labordy cyfrifiaduron, ofnir nad oes cyfrifiadur yno eto, ac mae llawer o le i wella ar y ddarpariaeth addysgol yno. Roedd y plant eu hunain yn gorlifo o lawenydd ac yn awyddus i gyffwrdd gyda'r Cymry, gan ryfeddu at eu gwallt, (neu ddiffyg gwallt yn achos Keith). Dyma wedd ymarferol o gariad yn gweithredu gan groesi ffiniau diwylliant a iaith, traddodiad a chyfandir. Dymuna Keith, Debbie a Sarah ddiolch i bawb a gefnogodd y fenter, gan sicrhau bod yr arian wedi caei ei wario'n ddoeth ac yn effeithiol.
 |