| Mae BBC Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer y bedwaredd gyfres o Ar Dy Feic - cyfres deithio gyda Hywel Gwynfryn sy'n ymweld â Chymry Cymraeg sydd wedi ymgartrefu tramor ym mhob cwr o'r byd. Tybed a fyddai ganddoch chi ddiddordeb i Hywel a'r criw ddod atoch chi am rai dyddiau i ffilmio rhaglen am eich bywyd a'ch gwlad newydd chi? Mae'r tîm cynhyrchu eisoes wedi cychwyn ar y gwaith ymchwil ar gyfer y gyfres nesa ac os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cael sgwrs bellach cysylltwch â: mair.verrall@bbc.co.uk neu llinos.wynne@bbc.co.uk neu ffoniwch: Mair - 00 44 1248 374991 neu Llinos - 00 44 1248 374972. Mae Ar Dy Feic wedi bod yn un o gyfresi mwyaf llwyddiannus S4C dros y blynyddoedd diwethaf; cliciwch yma i ymweld eto â rhai o'r bobl a'r gwledydd roddodd groeso i Hywel a'r criw yn y cyfresi diwethaf.
 |