Ychydig o Gymry Gymraeg yn ystod y deugain mlynedd diwethaf a gyrhaeddodd y garreg filltir arbennig o gan mlwydd oed yn nhalgylch Glannau Merswy. Cofiaf am dair chwaer ac un brawd cyn 12 Ebrill 2010 pan ymunodd Mrs Gwen Roberts, Crosby, â hwy. Cynnyrch bywyd Cymraeg Lerpwl yw Mrs Gwen Roberts ac yn ymhyfrydu yn ei chefndir a'i magwraeth yn ardal Anfield. Yr oedd ei rhieni a'i theulu yn aelodau ffyddlon yng nghapel Douglas Road. Gweinidog ei phlentyndod oedd y Parchedig Griffith Wynne Griffith (1883-1967) a fu yn weinidog eglwys Bethlehem, Douglas Road, o 1913 i 1923, pregethwr coeth a grymus, a llenor ardderchog. Yr oedd ei thad yn un o adeiladwyr y ddinas a maes o law symudwyd i fyw i Ogledd Lerpwl ag ymaelodi yng nghapel Waterloo lle y daliodd ei gafael ar yr addewidion ar hyd y blynyddoedd. Collodd ei phriod, Mr A. W. Roberts, yn yr wythdegau, a bu'n hynod o ffodus o'i chwaer, Dorothy Williams, sydd mor ofalus ohoni. Gwraig rinweddol, caredig ei hysbryd, a llawn croeso ydyw Mrs Gwen Roberts, a derbyniodd y blynyddoedd diwethaf hyn ofal cariadus yng nghartref y Seiri Rhyddion, Tithebarn, yn Crosby. Trefnodd y cartref barti ar ei chyfer ar ddiwrnod ei phenblwydd ac yr oedd fel brenhines yn agor yr holl gardiau yng nghwmni ei merch o Bwllheli, ei chwaer a gweddill y teulu. Edmygwn hi a dymuno yn dda iddi i'r dyddiau a ddaw.
 |