BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Byrddau'r dafarn boblogaidd yn llawn o deisennau Cacennau nid Cwrw
Tachwedd 2009
Cafodd cwsmeriaid tafarn y Llew Coch ym Mhenderyn dipyn o sioc wrth weld byrddau'r dafarn boblogaidd yn llawn o deisennau yn hytrach na'r diodydd arferol.
Dechreuodd y cyflenwad o ddanteithion gyrraedd nos Wener ac erbyn prynhawn Sadwrn, Hydref y 3ydd, roedd pob bwrdd dan ei sang gyda amrywiaeth o deisennau, brechdanau, ac ati.

Natalie James,merch y perchnogion Beryl a Keith, oedd yn gyfrifol am newid bwydlen arferol y Llew Coch. Codi arian dros elusen Canser y Fron oedd y cymhelliad y tu ôl i'r digwyddiad arbennig hwn.

Nid dyma'r tro cyntaf i Natalie gefnogi achos da. Mae hi wedi codi llawer iawn o arian dros elusennau yn y gorffennol. Y tro yma, llwyddodd y Te Parti Mefus i godi dros £315 at elusen Canser y Fron.

Cyfrannodd sawl un o ffrindiau'r Llew Coch bob math o deisennau a pharhaodd y te parti drwy'r prynhawn. Daeth mwy na 50 o gefnogwyr at ei gilydd i fwynhau'r parti a chynhaliwyd cystadleuaeth am y deisen orau, enwi'r arth, a raffl.

Bydd trigoliorn hŷn y pentref yn cofio te parti enwog arall, sef 'Te Parti'r Foel' (gw. Clochdar Gorffennaf 2009). Ys gwn i a fydd parti teisennau Y Llew Coch yn dod yn rhan o draddodiad Penderyn?

Mae'r Llew Coch yn bendant wedi llwyddo ennill enw da gyda ymwelwyr o bedwar ban y byd.

Joyce Morgan


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy