| Ddechrau Mehefin, anrhydeddwyd dau o athrawon gyda chysylltiadau ag Aberdâr ymhlith rhyw ddwsin o Gymru gyfan a dderbyniodd anrhydeddau yng ngwahanol feysydd y byd addysg eleni. Anrhydeddwyd Bethan Guilfoyle fel y Pennaeth a wnaeth fwyaf i hybu'r Gymraeg mewn ysgol uwchradd a Gareth Lucas fel athro mewn ysgol gynradd.
Mae Bethan wedi bod yn Bennaeth Ysgol Gyfun Treorci ers 13 o flynyddoedd. Cyn hynny roedd yn Ddirprwy yn Ysgol Gyfun Pencoed ac am nifer o flynyddoedd, roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol y Merched, Aberdâr ac yn byw yn Llwydcoed y pryd hwnnw. Mae'n enedigol o Drefach, Llanelli a chafodd ei haddysg yn Ysgol y Gwendraeth a Phrifysgol Caerdydd, lie yr enillodd radd mewn cerddoriaeth ac yna MA am waith ymchwil i gerddoriaeth gynnar y ddeunawfed ganrif. Erbyn hyn, mae hi a'i gwr Michael Guilfoyle yn byw yn y Groes-faen, ac mae Michael yn Brifathro Ysgol Gyfun Aberpennar. Mae ganddynt ddau o feibion, Mathew, sydd yn arbenigwr ar afiechydon yr ymennydd ac yn byw yng Nghaergrawnt, a Daniel sydd yn gyfreithiwr ac yn byw yng Nghaerdydd.
Yn Ysgol Treorci, bu Bethan a staff yr Adran Gymraeg yn arloesi cynllun i hybu dysgu pynciau drwy'r ddwy iaith a dechreuwyd gyda hanes, daearyddiaeth ac addysg grefyddol. Penodwyd athrawes i ddysgu'r pynciau hynny yn ysgolion cynradd y dalgylch, er
mwyn paratoi'r plant ar gyfer defnydd o'r Gymraeg yn yr Ysgol Uwchradd ac mae Ysgol Treorci yn dal i ariannu'r athrawes o hyd.
Erbyn hyn, dysgir pum pwnc i dri o ddosbarthiadau - un dosbarth ar gyfer plant o ysgolion Cymraeg y cylch a dau ddosbarth ar gyfer plant sydd wedi cael eu haddysg Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Cynllun arloesol yn wir - ac mae'n llwyddo.
Yn ogystal, mae'r ysgol yn defnyddio'r Gymraeg yn helaeth yn yr ysgol gyfan gyda phob dosbarth yn clywed yr iaith bob dydd mewn cyfarchion, gwasanaethau a gorchmynion syml, gyda gweithgareddau fel Clwb Cloncan a nifer o bethau eraill. Mae tua 25 o athrawon yr ysgol yn siarad Cymraeg a thua hanner dwsin yn dysgu'r iaith. Mae Bethan yn canmol y llywodraethwyr am eu cefnogaeth ac aelodau'r staff am eu cydweithrediad. Bellach mae athrawon yn cael eu penodi i'r ysgol sydd wedi bod drwy'r system ddwyieithog ac yn rhugl eu Cymraeg.
Dywedodd ei bod yn hyfryd derbyn yr anrhydedd a chlod mawr i'r adran Gymraeg, yr Adran ddwyieithog a staff yr ysgol i gyd.
 |