| Daeth llu ynghyd am 2.00 y pnawn i'r oedfa ddathlu ac eto am 6.30 i'r oedfa bregethu, i ymuno yn yr achlysur pwysig hwn yn hanes yr achos. Bu llawr y capel yn gyfforddus lawn ar gyfer y ddwy oedfa gydag oddeutu 200 o bobol yn bresennol yn y naill gyfarfod a'r llall. Un mesur o lwyddiant y dathlu oedd yr awyrgylch hapus a chyfeillgar fu ar led yn y pnawn wrth i'r gynulleidfa dderbyn llongyfarchiadau, dymuniadau da a chyfarchion gan unigolion a chyrff sy â chyswllt â'r eglwys. Felly hefyd gyda'r hwyr wrth i bawb a fu'n bresennol ddatgan mor werthfawr ac amserol y bu neges y prif westai, y Parchg. Vincent Watkins, Carmel, Pont-lliw, un o gyn-weinidogion Seion. Pwysleisiodd bwysigrwydd a pherthnasedd yr efengyl Gristnogol i fywyd yr unigolyn heddiw fel ddoe, a'i bod yn dangos "y ffordd i'r bywyd trwy adnabod lesu Grist". Llywyddwyd yn y ddwy oedfa gan y Parchg. Hywel Davies, Caerdydd (a godwyd yn Seion) a'r organydd trwy'r dydd oedd Mrs Janice Morris, Fforchaman Rd.
Mesur arall o lwyddiant y diwrnod ar ei hyd oedd y cyfeillgarwch a'r mwynhad a brofwyd gan frodorion ac ymwelwyr adeg y te dathlu am 4.00 o'r gloch (rhwng y ddau gyfarfod). Cynhaliwyd hwn yn neuadd yr institiwt lleol trwy gydweithrediad ei reolwyr. Cafwyd cyfle gan un ac oll bryd hynny i ddal i fyny â hen wynebau o bell ac agos: rhai'n dal i fyw yng Nghwmaman neu'n Aberdar gan rannu bywyd y capel; eraill yn byw yn bell - yn Llundain, Essex, Caerdydd a'r cyffiniau ac mor bell i'r gorllewin ag Abergwaun.
 |