| Dyma lun a dynnwyd ym mharti Ponty ddechrau Gorffennaf eleni. Yn y llun gwelir dau aelod o'r Cynulliad sef Owen John Thomas (Plaid Cymru) a Jane Davidson (Llafur), Aelod Pontypridd a Gweinidog Addysg y Cynulliad. Roedd y ddau wedi agor Parti Ponty - enghraifft dda o'r pleidiau gwleidyddol yn cydweithio. Hefyd yn y llun mae Rhian Powell ac Aeron Elias. Mae aeron wedi ysgrifennu llyfr newydd i blant ac fe gafodd ei gyfieithu gan Rhian Powell o Hirwaun. Mae Aeron yn adnabyddus yn Aberdâr gan ei fod yn gweithio mewn siop profion llygaid yn stryd Canon. Enw'r llyfr yw "Diwrnod Caled Bymbl." Ar y dde yn y llun mae'r Parch. Eric Jones, Cadeirydd Menter Iaith RhCT.
 |