| Beth am weithio allan gyfanswm eu hoedran. Mae'r hynaf yn 94 oed a'r ieuengaf yn 81. Mae'r dair yn y canol yn 91, 88 a 84. Dyna gyfanswm o.. ... ............ gweithiwch e allan! Mae e dipyndros bedwar cant! Ganed pedair ohonynt yn Ffermdy Ysguborwen, Trecynon tra roedd eu tad yn gweithio ar y fferm ac edrych ar ôl y ceffylau a'r gwartheg. Ganed Joan, yr ieuengaf yn Abercwmboi cyn i'r teulu symud i Godreaman. Rhyngddynt, mae ganddynt naw o blant, 13 o wyrion ac wyth gor ŵyr. Tynnwyd y llun hwn ar Nos Galan yn nhŷ un o'r merched a hithau yn byw y drws nesaf i'w mam. Roedd ganddynt un brawd hefyd ond bu ef farw rai blynyddoedd yn ôl. Dyma nhw- rhes gefn: Gladys Phillips (84);a Joan Jones (81). Yn y rhes flaen mae Daisy Jones (88); Olwen Hughes (94) ac Elsie Jones (91). Llawer o flynyddoedd llawen iddynt eto.
 |