BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
'Hen Wlad Fy Nhadau' ar wal ym MhontypriddAnthem yn cyrraedd pedwar ban byd
Ebrill 2008
Mae anthem genedlaethol Cymru yn cael ei hystyried yn un o anthemau mwyaf ysbrydoledig ac emosiynol y byd.
Yn 2006 er mwyn nodi 150 pen blwydd ei chyfansoddi penderfynodd aelodau dosbarth Cymraeg P30 (Prifysgol y Drydedd Oes) Cwm Cynon gyhoeddi pamffled dwyieithog amdani. Roedd nifer o'n haelodau am ei hanfon at eu perthnasau tramor, ac o ganlyniad teithiodd ein pamffled bach ni i bedwar ban byd!

Roedd yr ymateb a gawsom yn rhyfeddol. Gwir y dywedir mai'r Cymro oddi cartre yw'r un sy'n teimlo effaith hiraeth ar ei galon fwyaf ac sy'n ymateb i apêl emosiynol yr anthem orau.

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd cyrhaeddodd ein pamffled Idris Evans, Llywydd Cymdeithas Gymraeg Gogledd Califfornia, ddiwrnod cyneu Cymanfa Ganu yn San Fransisco ar Ddydd Gŵyl Dewi. Cafodd ei ddarllen gerbron yr holl gynulleidfa, gan eu hysbrydoli i ganu'r anthem gydag afiaith.

Yn ei lythyr o gydnabyddiaeth, soniodd Mr Evans fod gan un o'i aelodau gopi o gyhoeddiad cyntaf yr alaw rymus hon a ymddangosodd yn y gyfrol "Gems of Welsh Melody". Dyma drysor gwerth ei ddiogelu!

Testun balchder i'n dosbarth Cymraeg yw ein bod ni wedi cofnodi ein hanthem genedlaethol fel hyn, a bod copïau ohoni wedi eu dosbarthu i P30'ion drwy Gymru gyfan. Teimlem mai ein cyfrifoldeb gwladgarol oedd gwneud felly, yn arbennig gan fod cyfansoddwr yr alaw gref hon, James James, wedi'i gladdu yn y fynwent nepell o'r Coleg yn Aberdâr lle rydyn ni'n cyfarfod.

Ceir copïau o'r pamffled gan aelodau dosbarth Cymraeg P30 sy'n cyfarfod fel arfer am 10am ar yr 2il a'r 4ydd Dydd Gwener y mis yng nghaffi Amgueddfa Aberdâr. Ar hyn o bryd mae'r dosbarth yn cael hwyl wrth ddarllen nofel Daniel Owen, 'Rhys Lewis'. Mae croeso i aelodau newydd.

Gan Tydfil Thomas (Arweinydd Dosbarth Cymraeg P30 Cwm Cynon)


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy