| Wrth i dywydd y gaeaf ildio i awelon mwyn y gwanwyn mae apêl yr awyr iach yn cydio o'r newydd. A pha le gwell i ddilyn llwybrau'r mynyddoedd o'n cwmpas, neu ddod o hyd i lwybrau seiclo diddorol, na mentro i Barc Gwlad Cwmdâr? Bues yno yn ddiweddar gyda ffrindiau gyntaf, ac yna ar gefn y beic. Ar y ddau achlysur teimlais unwaith eto gym¬aint o fantais yw'r adnodd hon i ni drigolion Cwm Cynon. Yn y ganolfan groeso cewch gyfle i hamddena dros goffi neu fwyd. Gallwch hyd yn oed drefnu llety dros nos os mynnwch, neu wersylla yn y mannau a neilltuir am hynny. A chan ein bod ar lethrau'r Darran, mae digon o le i blant chwarae tu fa's heb boeni dim am drafnidiaeth brysur he¬olydd y dre. Os taw cerdded sy'n mynd a'ch bryd, ceir awgrymiadau am lwybrau addas, yn amrywio o ran eu hanhawster a'u pellter. At ei gilydd hefyd mae'r ganolfan yn arddel y Gymraeg gydag arwyddion dwyieithog yn eich cyfeirio i wahanol gyfeiriadau. Nôl yn 1968 cafwyd y sôn cyntaf am sefydlu Parc Gwlad Cwmdâr. Gwnaed hynny yng nghyd-destun y Ddeddf Gefn Gwlad a gyflwynwyd yn sgil trychineb Aberfan. Y Ddeddf hon sicrhaodd fod arian ar gael i drawsnewid hen diroedd gwastraff y diwydiant glo yn ardaloedd hamdden, gwledig. Dros y blynyddoedd bu 19 pwll neu lofa ar y safle hon; ond yn 1974 agorwyd Parc Gwlad Cwmdâr - y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Yn 1985 agorwyd y Ganolfan Groeso gan ddefnyddio am¬rywiaeth o gerrig ac addurniadau hen gapeli'r cwm. Os ewch i'r lolfa fe welwch fod y pileri yno yn nodweddiadol iawn o'r fath fyddai'n cynnal orielau capeli gynt. Yna yn 1993 agorwyd Canolfan Dreftadaeth y Cwm sy'n cynnig arddangosfa barhaol o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cwm Cynon. At ei gilydd, felly, mae Parc Gwlad Cwmdâr yn cynnig pro¬fiad gwerthfawr iawn - nid yn unig i'r ymwelydd tramor ond i bobl leol hefyd. Yn ogystal â'r ddarpariaeth arferol yno, ceir digwyddiadau a theithiau arbenigol o dro i dro. Dros yr haf eleni, er enghraifft, bob dydd Mercher, trefnir taith gerdded hawdd 1 - 3 milltir dan arweiniad un o'r tywyswyr. Gallwch hefyd logi beic. Beth amdani? Gwela'i chi yno! Hywel Davies
 |