BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Yr Athro Emrys JonesCofio Yr Athro Emrys Jones
Hydref 2006
Dyn yn falch o'i wreiddiau yng Nghwm Cynon a'i Gymreictod oedd Emrys Jones, PHD, DSc, DUNrv, FRGS, FBA , a fu farw'n ddiweddar yn 86 oed.

Yr oedd hyn yn amlwg wrth ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y Faenol y llynedd. Yr enw a ddewisodd i'w adnabod yn yr Orsedd oedd 'Crwtyn Blaengwawr'. Er ei amlygrwydd yn y byd academaidd a'i ysgolheictod, dyn diymhongar oedd, yn barod i rannu ei wybodaeth ag unrhyw un, ac yn awyddus i helpu'i gyd Gymry mewn unrhyw ffordd y gallai.

Ganed ef yn Henry Street, ger ysgol Ynyslwyd a chafodd ei ad¬dysg leol yn ysgol gynradd Blaengwawr a hen Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Trecynon. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle yr oedd yn un o sêr ei gyfnod, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth ac Anthropoleg, cyn mynd i Brifysgol Llundain. Enillodd fri yn ystod gyrfa ddisglair ym Mhrifysgolion Llundain a Belfast. Dychwelodd i Lundain fel Athro Daearyddiaeth yn y London School of Economics am gyfnod maith o 1961 hyd 1884.

Am flynyddoedd bellach bu ef a'i wraig Iona (merch o Sir Fôn) yn byw yn Berkhamsted, Swydd Hertford lle yr oedd yn un o hoelion wyth Cymdeithas Gymraeg yr ardal. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Coron ar y cyfnod hwnnw oedd ei Lywyddiaeth ar y Gymdeithas o 1989 i 2001. Cyflwynwyd Medal y Gymdeithas iddo gan Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2001 mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'r Gymdeithas, i ysgolheictod ac i Gymru.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac erthyglau gan gynnwys ei astudiaeth o'r gymuned Gymraeg yn Utica yn Unol Daleithiau America. Yn y flwyddyn 2001, fel rhan o ddathliad 250 mlynedd oddi ar sefydlu Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain yn 1751, cyhoeddwyd ganddi a Gwasg Prifysgol Cymru cyfrol dan y teitl The Welsh in London 1500-2000. Emrys Jones oedd awdur pennaf a golygydd y gyfrol honno.

Yn ddiweddar dyfeisiodd daith o gwmpas mannau diddorol yn ninas Llundain ag iddynt gysylltiadau arbennig â Chymru a'r Cymry. Bu'n arwain parti o gymdeithas Sir Drefaldwyn ar daith o'r fath ym mhoethder mis Gorffennaf, ond dyddiau cyn ei waeledd olaf.

Fe fydd coffa da amdano, yn enwedig ymhlith y Cymry yn Llundain a'r cyffiniau.

John Samuel


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy