| Cymaint oedd y pryder a'r dicter nes bod bron i 40 o bobol wedi dod yma i ddatgan eu teimladau am y sefyllfa annioddefol sydd wedi bodoli yn yr ardal ers dwy flynedd erbyn hyn. Mae wedi bod yn hunllef - gwerthwyr cyffuriau yn denu pob caethwas cyffur trwy gydol y dydd a'r nos, bygythiad corfforol, heddweision sydd angen defnyddio pastynau, difrod i eiddo pobol eraill a hen bobol yn teimlo dan warchae yn eu tai eu hunain.
Y gwir drasiedi yw mai dim ond dau neu dri unigolyn sy'n gyfrifol am danseilio cymuned glên a pharchus. Mae pob person ac asiantaeth, gan gynnwys y Llysoedd a'r Heddlu, yn adnabod y dyrnaid o fasnachwyr cyffuriau sy'n achosi cymaint o drallod ac anrhefn.
Ond mae'r un peth yn digwydd ar hyd a lled Rhondda-Cynon-Taf. Yn ystod y mis diwethaf, mae chwe person ifanc wedi marw am eu bod nhw wedi cymryd cyffuriau.
Mae terfysg wedi digwydd ym Mhenrhywceiber yn ddiweddar oherwydd, yn ôl pobol leol, helyntion dros gyffuriau. Mae sôn wedi bod am gael gwarchodwyr (vigilantes) yn y Rhondda er mwyn cael gwared ar y troseddwyr hyn. Hefyd mae'r Cynghorydd Julie Williams wedi bod yn siarad ar Radio Cymru am ofn llawer o drigolion yn ei ward hi oherwydd presenoldeb masnachwyr cyffuriau yn eu plith.
Gobeithio y bydd yr asiantaethau perthnasol yn dechrau datrys y broblem cyn bo hir. Ond heb os nac oni bai mae trigolion Heol Bont wedi cael digon.
 |