Roedd yn bleser gael cais gan y Parch. Eric Jones i ysgrifennu i ddarllenwyr Clochdar unwaith eto. Mae'r blynyddoedd wedi hedfan oddi ar y tro diwethaf, ac mae llawer o bethau wedi newid. Mae fy nheulu i yng Nghwmbach wedi gadael y byd yma, tad Cyril Dennis yn 1994, mam Margaret yn 2003, a brawd Philip yn 2005, yn 57 mlwydd oed. Mae colli teulu yn greulon, ac mae ein cartref ni yng Nghwmbach yn gartref i deulu newydd yn awr.
Er imi fyw am chwarter canrif yn Awstria, y mae darn o fy nghalon bob amser yn Aberdâr, a hiraeth arnaf hyd heddiw. Mae mynyddoedd mawr yn Awstria, llawer rhy fawr i ferch fach o Gymru! A does dim môr yma chwaith, dim ond llynnau ac afonydd mawr.
Pob haf yn gyson deuthum efo 'ngŵr Wolfgang a'n merch ni Angharad, i dreulio ychydig o wythnosau yng Nghwmbach, gyda'r teulu, ac yn Sir Benfro ar lan y môr. Mae Angharad a Wolfgang yn caru Cymru bron gymaint a finnau.
Deuthum ar ysgoloriaeth i astudio canu i Vienna flynyddoed yn ôl, ac un o'n athrawon i yn yr ysgol opera oedd Wolfgang Gabriel. Cwmpasom ni mewn cariad, ac ar ôl ychydig flynyddoedd o ganu proffesiynol o gwmpas Lloegr, Cymru ag Ewrop daeth yr amser i briodi, tynnu'r gwreiddiau, a symud i Awstria. Ar ôl i Angharad cael ei geni, penderfynais nad oeddwn i am drafaelu o gwmpas mwy, a dechreuais i ddysgu canu yn Vienna, ac yr wyf yn dal ati hyd heddiw.
Un o'm disgyblion yw Angharad yn awr, ac mae hi yn cario mlaen â thraddodiad y canu. Y penwythnos diwethaf canodd hi ddwy waith yn Bach St. John Passion, gyda Wolfgang yn arwain côr Bach Vienna a'i gerddorfa. Heno mae perfformiad ganddi o Pergolesi Stabat Mater am Sul y Blodau yn eglwys St. Peter yn Vienna. Mae hi'n gobeithio cael cyfle i ganu yn Aberdâr hefyd. Pan roedd hi'n wyth mlwydd oed, rhoddodd hi gyngerdd yng Nghapel y Gadlys i ffrindiau mam a dad, ac yr oedd hi wrth ei bodd yn barod. Os oes rhywun yn darllen sydd yn trefnu cyngherddau yno, mae hi'n barod!
Dwy ddim yn canu nawr. Mae un soprano yn y teulu yn ddigon! Yn ychwanegol at ddysgu canu, rwyf i wedi dechrau ysgrifennu, - breuddwyd am amser maith oedd hynny. Mae fy ngŵr a'm ffrind Judith Rist wedi poeni fi am flynyddoedd i osod cofion plentyndod i lawr, ac ar ôl colli fy mrawd, daeth yr amser i fynd yn ô a gweithio trwy'r hiraeth a oedd mor gryf ynof.
Penderfynais i gynnwys tipyn o hanes datblygiad Cwmbach hefyd, ac yr wyf wedi bod yn archwilio yn brysur am fisoedd yn awr ac yn cael pleser mawr ar y gwaith. Rwy'n treulio rhan o bob dydd yn Aberdâr, ac mae'r milltiroedd yn diflannu!
Fe fyddaf wastad yn cadw cysylltiad ag Aberdâr ag yn ymweld â chyfeillion caredig sydd yn cynnig rhoi gwely imi!
"Chwiliwch y byd, trwyddo i gyd
Does unman yn debyg i gartref"
Susan Dennis-Gabriel