BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Y Sagrada Familia, BarcelonaTaith Ysgol Rhydywaun i Barcelona
Rhagfyr 2008
Taith adran ieithoedd modern Ysgol Rhydywaun i Barcelona 2008. Adroddiad Gabby Jones blwyddyn 11

Ar y pumed ar hugain o Hydref, aeth 44 disgybl a 5 aelod o staff ar daith i Sbaen. Ar ôl misoedd o gyfri'r diwrnodau, roedd y diwrnod wedi cyrraedd. Daeth pob disgybl yn weddol gynnar efo'u siwtces, bagiau llawn bwyd a llawn cyffro. Wrth i 4 or gloch nesáu roedd pawb yn eithaf emosiynol am adael eu teuluoedd - rwy'n siŵr gwelais i ddagrau gan fechgyn Blwyddyn 10... Am 4 o'r gloch, caeodd drws y bws a dechreuon ni ar ein hantur fawr.

Roedd hi'n bron 10 o'r gloch y nos pan gyrhaeddon ni borthladd Dover. Doedd hi ddim yn hir tan gawsom ni ein gollwng yn rhydd i archwilio. Ond dewis rhai oedd aros yn agos iawn i'r tai bach. Ganol nos oedd hi wrth i ni gyrraedd Ffrainc, ond doedd neb wedi blino (heblaw am y staff!). Wrth i'r oriau basio roedd y sŵn ar y bws yn lleihau, ac erbyn 3 o'r gloch roedd y bws mewn distawrwydd heddychlon.

Roedd hi'n bedwar o'r gloch, yn y prynhawn, roedden ni wedi cyrraedd y gwesty! Roedd pawb mor hapus i weld eu hystafelloedd. Roedd pawb yn ymladd i fynd yn y gawod yn gyntaf, ond am 8.30 pm roedd pawb yn arogli'n dda ac yn edrych yn lan. Cafodd pawb wledd yn y tŷ bwyta. Ac ar ôl storio egni, roedd amser i ni ddawnsio. Roedd traed y merched yn dechrau brifo ac roedd y bechgyn wedi dangos eu symudiadau gorau, roedd hi'n hen bryd i ni ddychwelyd i'n hystafelloedd, a chysgu.

Dydd Llun cawsom ddiwrnod yn Gerona. Erbyn hyn mae rhedeg i ben grisiau'r eglwys yn draddodiad ysgol! Enillydd y ras honno eleni oedd Gareth Davies. Treulion ni weddill y bore yn edrych o gwmpas hen ran y ddinas ac yn cael cyfle i grwydro'r siopau. Yn enwedig dwy siop arbennig sef siop losin a siop siocled! Fy syniad i o nefoedd oedden nhw!

Yn y prynhawn roedd criw dewr ohonom ni wedi penderfynu mynd yn y pwll nofio yn y gwesty. Am gamgymeriad! Roedd y dŵr mor oer â dŵr Antartica! Roedd pawb wedi cynhesu ar ôl cawod gynnes. Unwaith eto roeddem wedi llenwi ein boliau â bwyd blasus. Ar ôl bwyd aeth y rhan fwyaf ohonom i'r ystafell gemau. Gwarion ni euro ar ôl euro yn ceisio ennill. Am tua 11 or gloch aethom ni i'r gwely i sicrhau y byddem yn barod am y diwrnod nesaf.

Cododd pawb yn gynnar iawn Ddydd Mawrth achos roedd yn ddiwrnod Port Aventura. Yn anffodus roedd hi'n bwrw glaw yn drwm, ond roedd pawb yn ceisio mwynhau. Erbyn diwedd y dydd roedd pawb yn oer ac yn wlyb a wir angen cawod!

Diwrnod olaf y daith oedd diwrnod yn Barcelona. Yn gyntaf aethom ni i'r stadiwm Nou Camp a gwelon ni'r chwaraewyr enwog Thierry Henry a Eidur Gudjohnsen. Ar ôl edrych o gwmpas yr amgueddfa a mynd i siopa yn y stadiwm, roedd hi'n amser i fynd yn ôl i'r bws.

Aethom ni o'r stadiwm i ganol Barcelona i La Placa de Catalunya a Las Ramblas. Cawson ni gyfle i fynd i siop fwyaf Barcelona, El Corte Ingles ble llwyddodd Brandon Davies fynd ar goll! Ar ein noson olaf roedd yna gyfle i weld y ddawns draddodiadol Sbaeneg y Flamenco a mynd i'r disgo.

Ddydd lau roedd rhaid i ni ddechrau ar ein taith nôl adref, a nôl i'n bywydau arferol! Cafodd pawb amser arbennig a dw i'n sicr bydd rhai o'r disgyblion yn dychwelyd nôl i Barcelona yn 2010. Diolch i'r athrawon am fynd â ni!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy