BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
pafiliwnLlwyddiant Aberdâr yn yr Eisteddfod
Tachwedd 2008
Llwyddiant Aberdâr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch eleni

Diolchwn i'r Golygydd am dynnu sylw darllenwyr Clochdar at yr anrhydedd a roed yn yr Eisteddfod eleni i ddau sy â chyswIlt clôs â'r ardal, sef Gaynor Morgan Rees, Dinbych, sy'n wreiddiol o Abercwmboi, a Roy Noble, Llwytgoed.

Cafodd Gaynor wisg wen yr Orsedd mewn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad anrhydeddus i fywyd y theatr a'r teledu yng Nghymru dros gyfnod helaeth. Cafodd Roy Noble y wisg werdd am ei gyfraniad yntau i fyd y cyfryngau fel cyflwynydd diddan sy at ddant llawer o wylwyr a gwrandawyr y BBC.

Priodol yw llongyfarch y ddau ar yr anrhydedd a gawsant. Ond nid hynny oedd unig gyfraniad trigolion Cwm Cynon i weithgaredd Caerdydd eleni. Bu o leia' chwe pherson lleol yn aelodau ffyddlon Côr yr Eisteddfod dan arweinyddiaeth Alun Guy. Efallai y bu eraill hefyd; ond enwau'r chwech sy'n hysbys ar y funud yw Meinir Williams, Hirwaun (Aberaman gynt); Rhydfen Eynon, Trecynon; Paul a Mari Carson, Cwmbach; David Leslie Davies, Cwmaman, a Lisa Williams, Abercynon. Diau y byddai'r chwech yn cytuno taw profiad arbennig oedd canu dan wenau Alun Guy a than law'r enwog Karl Jenkins wrth berfformio'i waith Dewi Sant.

Cafwyd gymanfa ganu hwylus nos Sul gynta'r Wyl, gyda llond bws o gantorion Cwm Cynon yn ei mynychu ac eraill yn teithio yno'n eu ceir. Eu presenoldeb nhw, a phobl debyg o bob ardal, a gododd y gymanfa nes iddi "esgyn ar adennydd cân" (chwedl Ap Hefin) a'i gwneud yn achlysur neilltuol lwyddiannus. O'r llwyfan, gwelai awdur y nodyn hwn sawl wyneb cyfarwydd gan gynnwys Steve Barnes, Maes-y-ffynnon; Gwyneth Jenkins, Cwmaman; Phyllis Brace, Llwytgoed; Jill Escott, Trecynon a John Samuel, Llundain (Abernant gynt). Diau bod eraill yno na syrthiodd lygad chwilfrydig yr awdur arnynt. Maddeuer!

A sôn am John Samuel, rhaid ei longyfarch yntau ar dderbyn gwisg wen yr Orsedd yn yr Eisteddfod ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe'i caed am ei gyfraniad pwysig i fywyd Cymry Llundain fel ysgrifennydd capel Cymraeg Castle St (o fewn cam i Oxford St) ac fel ysgrifennydd diwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yno. Mae Cymraeg John yn rhyfeddol o gofio ei fod wedi ymadael ag Abernant ers tua deugain mlynedd. Mae ei gof am hen drigolion ac arferion cylch ei febyd hefyd i'w ryfeddu ato. Daw i'r Eisteddfod yn gyson bob blwyddyn a bu yng Nghaerdydd ar ôl galw ar berthnasau yn Aberdâr gan gynnwys ei gyfnither, Olwen Edwards, Windsor Tce.

Cyfraniad arall o'r fro i weithgaredd Caerdydd oedd darlith gan David Leslie Davies ar y maes i Gymdeithas Cymru-Ariannin. Pwnc y ddarlith oedd 'Abraham Matthews, arwr tawel y Wladfa: y cyswllt â Chaerdydd'. Gweinidog Horeb, Llwytgoed ac Adulam, Merthyr Tudful oedd Matthews. Ef oedd arweinydd y garfan o gymoedd Cynon a Thaf a hwyliodd am Batagonia ym 18ô5 ar y Mimosa, y llong gyntaf i fentro yno. Er gwaetha'r tywydd gwlyb, daeth tyrfa deilwng ynghyd i wrando'r ddarlith. Pleser fu gweld amryw o 'hoelion wyth' Cwm Cynon yno i 'gynnal breichiau' y siaradwr: yn eu plith Gaynor Morgan Rees, Dinbych; Wendy v Phillips, Llwytgoed; John Samuel, Llundain a Lis Williams, LlanuwchIlyn (Trecynon gynt).


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy