Ar nos Wener, Hydref 27ain 2006, clywodd aelodau a chyfeillion Seion a thrigolion pentref Cwmaman gyda thristwch a theimlad o golled enfawr am farwolaeth Megan George Davies yn nawdeg a thair mlwydd oed.
Bu'n byw yng Nghwmaman ar hyd ei hoes a Seion oedd ei chartref ysbrydol trwy gydol y blynyddoedd.
Hanes cynnar y teulu
Roedd ei chyndadau ymysg arloeswyr cynharaf y Bedyddwyr yn ardaloedd Merthyr Tudful ac Aberdâr ac ymysg sylfaenwyr yr achos yma yn Seion rhwng 1856-59.
Bu un o'i chyndadau, David Owen Davies (1765-1853), ymysg sylfaenwyr eglwys Seion, Merthyr (1788) ac yn weinidog achos y Bedyddwyr ym Methel, Cwm-taf, ger Cefncoed-y-cymer, mam-eglwys Siloam, Penderyn (1821).
Priododd Mary, merch yr hen weinidog, a Llewelyn Howel mab i un o hen deuluoedd Aberdâr. Bu'r teulu hwn ymysg sylfaenwyr yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon (1751) ac, yn ôl traddodiad, achos Cwm-y-glo, Merthyr (1689). Trodd ei gŵr at y Bedyddwyr dan ddylanwad ei wraig a buont yn aelodau yng Nghalfaria, Aberdâr (1815) cyn helpu sefydlu capel Abernant-y-groes (1840), mam-eglwys Bethania, Cwmbach, a sefydlu Gwawr, Aberaman (1848) yn ogystal. Bu gwrthdaro enwog ym 1851 pan gipiodd y Mormoniaid adeilad Gwawr oddi wrth y Bedyddwyr a Llewelyn Howells, hen-hen-dadcu Megan, aeth i'r Assize Court yng Nghaerdydd i'w adennill.
Symud i amaethu yng Nghwmaman wnaethant; ond ar ôl marw'i gŵr, aeth Mary Howells i'r pentref i fyw yn ôl ys¬grif a luniwyd ym 1889 gan weinidog Seion, Thomas Humphreys.
"Y cymmundeb cyntaf a rhoddwyd yma oedd yn nhŷ^ Mary Howells... a phrif hyfrydwch ei chaion oedd roddi lle i Arch Duw o dan ei chrongiwyd. Cynnelid hefyd yn ei thy gyrddau gweddi a chyfeillachau, Ysgoi Sui ac Ysgoi gan. Yr oedd yr hen chwaer, yn nghyd â'i theulu, yn hoff iawn o ganu, a byddant yn aml yn arwain y canu yn y cyfarfodydd..."
Yn yr afon Aman gerllaw, yn Awst 1858, y cafwyd y bedyddiadau cyntaf yng Nghwmaman a mab Mary Howells ymysg y tri a fedyddiwyd. Yna, rhwng 1859-61, pan godwyd Seion, arwyddwyd ei dogfenni sylfaenol gan yr hen chwaer er iddi fod yn anllythrennog: yr unig un felly, a'r unig wraig, ymysg dwsin o wŷr amlwg gan gynnwys chwech o weinidogion y Bedyddwyr a Thomas Price, Calfaria yn eu plith.
Ei bywyd yng Nghwmaman
Ei rhieni oedd John Evan Harris a Sarah Jane George. Er yn löwr heb fawr o addysg ffurfiol, roedd John Harris yn ŵr dysgedig a diwylliedig ei natur; a bu'n ddiacon ac ysgrifennydd Seion am flynyddoedd pan oedd yr achos yn llewyrchus a'i thystiolaeth yn gref. Bu fyw chwech o'u plant: pedair merch a dau fachgen. O un i un, ymadawodd y plant a'u cartref; ond arhosodd Megan i ofalu am ei mam a'i thad pan aeth eu hiechyd yn fregus.
Ym 1941, priodwyd Megan a Percy Davies gan y Parchg. Thomas Jones-Evans a bendithiwyd hwy â merch fach a dau fab, Hywel a David Leslie: Hywel nawr yn ficer Llanddarog a Llanarthne, Sir Gâr, a Leslie yn athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, Merthyr ac yn hanesydd prysur.
Ymgartrefodd Megan a Percy yn y cartref teuluol oher¬wydd cyflwr iechyd ei rhieni a bywyd o ofalu cyson fu ei rhan. Ond er yr holl gyfrifoldeb, ni chollodd oedfa yn Seion na chyfarfod yng nghapeli cwrdd dosbarth Aberdâr heb reswm digonol. Roedd ganddi ffydd gadarn, ddi-sigl; ac er holl droeon yr yrfa, ni phylodd ei hymddiriedaeth llwyr yn ei Harglwydd. Ym 1943, bu farw ei merch fach yn ddwyflwydd oed; ac ym 1975 collodd ei gŵr yn gymharol ifanc. Er gwaethaf popeth, brwydrai ymlaen gan edrych ar Iesu fel "awdur a pherffeithydd ei ffydd"
Ymhyfrydai yn y gymdeithas ddrama lle bu ei thad yn gynhyrchydd ac yn y gymanfa ganu, y côr merched ac yn yr oratorios a berfformiwyd gan gôr y capel yn ddifwlch o 1931 - 41. Doniwyd hi â llais soprano hyfryd oedd yn werthfawr ac o gymorth mawr i arweinyddion y gân fel William Clay Jenkins (ei hewyrth) ac Idwal Rees. Hi oedd ysgrifenyddes Cymdeithas y Chwiorydd a'r Senana yn Seion am flynyddoedd a'i threfnu bob amser yn drylwyr. Ym mhob gweithgaredd, roedd ei chymreictod yn amlwg - carai Gymru, ei hiaith a'i diwylliant.
Croeso'r Aelwyd
Roedd Megan yn wraig gymwynasgar, gyfeillgar. Ar ôl iddi symud i fyw i ganol y pentref, roedd ei chartref yn gyrchfan - yn enwedig ar fore Gwener pan oedd. gwragedd Seion yn siopa ac yn mynd i'r llyfrgell. Roedd ganddi lu o gyfeillion; ond ei chyfoedion yn Seion oedd ei ffrindiau mynwesol. Yn 2001, aeth i'r ysbyty ac yna i fyw mewn gofal wedi i'w hiechyd dorri. Gydol y pum mlynedd nesaf, cafodd bob gofal yng nghartrefi Heathlands, Cwmaman ac Oakwood, Glandâr. Yno y dathlwyd ei phenblwydd yn 93 oed fis Mehefin diwethaf. Trefnodd ei meibion barti arbennig ac addas iddi, a bu Megan mor hapus pan welodd ei theulu a chyfeillion Seion yn dod i mewn i'r lolfa. Roedd hi yn ei helfen.
Cynhaliwyd ei gwasanaeth angladdol yn Seion ac yn Am¬losgfa Llwydcoed, gyda Mrs Enyd Arfon Jones a'r Parchg. Vincent Watkins, Carmel, Pont-lliw (cyn weinidog Seion) yn gwasanaethu. Janice Morris, cyfeilydd Seion, oedd yr organydd. Yn y gynulleidfa bu aelodau teuluol niferus a fu'n ffyddlon iddi mewn gwynfyd ac adfyd; aelodau Seion ac eglwysi Cwm Cynon; cyfeillion oes a chynrychiolwyr o ardaloedd Llanddarog, Llanarthne ac Ysgol Afon Taf, Merthyr.
Cydymdeimlwn yn ddwys â Hywel a Leslie ar golli mam gariadus a gofalus.
Betsi Davies, Cwmaman.