| Cyrhaeddodd Tîm Menter Iaith o'u swyddfeydd yn y Gadlys, Aberdâr, rownd derfynol Cwis Pencampwriaeth Radio Cymru 2004 i chwarae yn erbyn Llanefydd yn Sir Dinbych. Oherwydd salwch roedd isio dirprwyon newydd ar frys a gofynnwyd i Geraint Price, dyn heb segurdod, a chymhellodd ef Ceris a Wynn i ymuno â'r tîm gydag ef. Eleri Siôn oedd y cwisfeistr hawddgar ar y meic ac ar ôl cystadleuaeth gynhyrfus a chlos gorffennodd Tîm Menter laith yn Bencampwyr Cwis Radio Cymru 2004. Gwahoddwyd y tîm buddugol a'u ffrindiau i'r Guildhall yn Abertawe fel gwesteion y BBC i gael bwffe aruchel a chyngerdd bendigedig. Derbyniwyd plac gan Mari a Helen ar ran y tîm. Heather Jones, Meic Stephens, Dafydd Du a Delwyn Sion oedd sêr y gyngerdd gyda Cherddorfa'r BBC yn cyfeilio. Darlledwyd y gyngerdd fawreddog ar fore Dydd Nadolig 2004.
 |