| Cafwyd cinio yng Ngwesty'r Glan Cynon pan gafwyd nifer o ymwelwyr wedi dod ynghyd â Mawrion y Mudiad yn sôn am waith dyngarol y "Foresters". Yn ystod y nos, cafwyd seremoni anrhegu Gwilym Gwynne Williams o Seymor St gyda medal am ei waith dros y mudiad am gyfnod o dros 60 mlynedd. Siaradwyd yn uchel iawn am ei ymroddiad ac am ei waith gwirfoddol dros nifer o fudiadau yn lleol dros y blynyddoedd. Cafwyd ymateb ffraeth gan Mr. Williams a oedd yn falch fod ei ddau ŵyr o dde
Lloegr wedi gwneud yr ymdrech i fod yn bresennol ar yr achlysur. Yn y llun, fe welir Gwilym Gwynne yn derbyn y Fedal am ei waith dros y Mudiad ers dros 60 mlynedd.
 |