| Bragdy Brodyr ydy enw cwmni Allan a Richard Williams o Lyn-nedd. Mae Allan wedi ymddeol ar ôl cadw siop sglodion am flynyddoedd, ac mae'r brawd ifancach Richard yn athro yn Aberdare High School, (Ysgol Gyfun y Bechgyn). Erbyn hyn mae'r cwmni'n cynhyrchu seidr a gellygwin (perly).
Dechreuodd eu menter ar ôl iddynt sgwrsio a chymeriad o'r enw 'Bill' ar eu hymweliadau â'r rasys trotian a gynhelir yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf. Roedd Bill yn gwneud ei seidr ei hunan eisoes ac yn cadw samplau yng nghefn ei Landrover. Byddai'r brodyr yn mwynhau blasu ei seidr a thrafod ei ddull o'i wneud.
Yn ôl Richard dydy'r broses ddim yn anodd ac mae popeth yn hollol organig. Mae burum naturiol yn y ffrwyth sy'n troi'r siwgr yn y beren neu'r afal yn alcohol. Does dim byd yn cael ei ychwanegu, dim and amser ac amynedd.
Mis Tachwedd ydy amser gwasgu'r ffrwyth a ddylech chi ddim yfed y seidr neu'r gellygwin hyd nes i chi glywed y gwcw. "Mae'r aros yn anodd, ond wrth gwrs, mae'n rhaid blasu bob hyn a hyn i sicrhau llwyddiant y broses!", medd Richard.
Dechreuon nhw gystadlu yn yr Ŵyl Seidr a Gellygwin flynyddol yn 2005, ac erbyn y flwyddyn ganlynol roedden nhw wedi ennill y wobr am y gellygwin gorau yng Nghymru - camp a gyflawnwyd ganddynt yn 2007 yn ogystal. Dyma oedd y tro cyntaf i'r un cwmni ennill y brif wobr am ddwy flynedd yn olynol. Llynedd enillon nhw gyda 'Silver Lady' a Bragdy Brodyr ydy Pencampwyr Cymru ar hyn o bryd.
Beth am y dyfodol?
Hoffen nhw gadw safon uchel y gellygwin a chael yr un llwyddiant gyda'u seidr. Mae'r gystadleuaeth yn ddwys iawn gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn. Yn 2009 roedd dros gant o gynhyrchion ar gael yn y gystadleuaeth ond mae Bragdy Brodyr yn hoffi sialens. Hoffai Clochdar ddymuno pob lwc i Allan a Richard, gyda llawer mwy o wobrwyon i ddod.
Joyce Morgan
 |