BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Huw LloydPrifathro newydd Ysgol Gyfun Aberpennar
Chwefror 2010
Llongyfarchiadau mawr i Huw Lloyd ar ei benodiad yn bennaeth Ysgol Gyfun Aberpennar
Mae Huw yn fab i'r diweddar George ac Eirwen Lloyd. Mae e'n byw yng Nghwmdâr gyda'i wraig Linda a'i blant Marion, Emyr ac Elin. Mae'r plant yn mynychu Ysgol Penderyn ac yn aelodau brwd o Ysgol Sul Siloa.

Bydd darllenwyr y papur yn siŵr o adnabod y teulu! Mae Rhian ei chwaer yn diwtor ym Mhrifysgol Morgannwg, ei nyth Sali yn athrawes yn Ysgol Glyn Nedd a'i nai Rhys yn hyfforddwr golff proffesiynol. Maent i gyd yn byw yn y Cwm ac yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau a'u Cymreictod.

Derbyniodd Huw ei addysg yn Ynyslwyd, Rhydfelen ac yna ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn dechrau ar ei yrfa fel athro Cymraeg. Y mae eisoes yn bennaeth llwyddiannus yn Ysgol Gymunedol Cwrt Sart yng Nghastell Nedd er 2005.

Mewn sgwrs a Clochdar dywedodd iddo ymgeisio am y swydd yn Aberpennar am fod ganddo awydd cryf i gyfrannu at ddatblygiad pellach addysg yn ei fro enedigol. Ychwanegodd fod Ysgol Aberpennar ar flaen y gad gyda'i chanlyniadau a'i phwyslais cymunedol, a'r her nawr oedd datblygu'r ysgol nes ei bod yn rhagori ym mhob un agwedd o'i gwaith.

Mae ganddo lu o syniadau newydd gan gynnwys creu academi chwaraeon,, a chryfhau dwyieithrwydd yr ysgol. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd a'i fod yn teimlo'n gyffrous o fedru gweithio yn y cwm am y tro cyntaf yn ei yrfa. Bydd Huw yn dechrau ar y gwaith yn ystod tymor yr haf eleni.

Dymunwn yn dda iddo a dwi'n siŵr y caiff Clochdar glywed mwy oddi wrth Ysgol Aberpennar yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth! Braf gweld Cymro Cymraeg yn ymgymryd â'r her yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy