BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Siân Moran ac enillwyr o Ysgol Tang Soo Do yn AberdârLlwyddiant campus i Siân
Mehefin 2008
Llwyddodd Siân Moran i ennill dwy fedal aur ac un arian ym mhencampwriaeth rhyngwladol Tang Soo Do 2008.

Llongyfarchiadau i Siân Moran, hyfforddwraig Ysgol Tang Soo Do Aberdâr. Mae Tang Soo Do yn math o garate o Korea sy'n debyg i Tae Kwon Do. Enillodd dwy fedal aur ac un arian ym mhencampwriaeth rhyngwladol Tang Soo Do 2008 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar Fai 10.

Ar ôl cystadlu yn erbyn nifer o gystadleuwyr gwregys du o Gymru a'r Unol Daleithiau enillodd Siân y gystadleuaeth patrymau (Hyung/Kata) a'r arfau cyn dod yn ail wrth chwalu byrddau pren. Aeth ymlaen i dderbyn yr anrhydedd uchaf wrth ennill tlws pencampwraig mawreddog y menywod.

Llongyfarchiadau hefyd i'w disgyblion sydd wedi bod yn ymarfer yn galed dros yr wythnosau diwethaf. Enillodd Morgan Abraham sy'n 10 oed fedal aur yn yr ymladd i fechgyn 9-11 oed gwregys gwyrdd, a medal efydd yn yr hyung (kata). Bu ei frawd Gareth sy'n 12 oed yr un mor llwyddiannus wrth ennill medal aur yn yr ymladd i fechgyn 12-14 gwregys gwyrdd, tra yr enillodd Richard Morgan sy'n 13 oed fedal aur yn yr Hyung yn yr un categori.

Mae Siân yn gobeithio y bydd hi yr un mor llwyddiannus ym Mhencampwriaeth Tang Soo Do'r byd. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Orlando, Florida ar Awst 1-3. Am ragor o fanylion am Tang Soo ewch i weld Siân yng nghanolfan gymunedol Penywaun, Stryd Gwladys, Penywaun unrhyw nos Fercher am 7- 8.30yh neu brynhawn Sul am 4.30-7.30yh neu ffoniwch 01639 710595.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy