Ym 1946 ail-gydiwyd yng ngweithgareddau cymdeithasol a gawsant seibiant yn ystod y rhyfel. Un o'r pethau cyntaf a gofiaf oedd yr Eisteddfod Gŵyl Ddewi i'r plant ym Methel Abernant. Mae Hun y Parchg John Mills, gweinidog yr eglwys ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hongian ym mhulpud y festri.
I'r Eisteddfod gwelwyd rhes o fagiau sidan a rhubanau lliwgar, a winwyd yn ofalus gan chwiorydd yr eglwys, yn hongian dan farf Mr Mills. Yn y man, hongiwyd bag (ag ambell bisyn tair ynddo!) am wddf enillydd. Yr oedd bag i bawb cyn diwedd y noson.
Ym 1946 hefyd, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhafiliwn mawr Aberpennar. I mi dyna'r Genedlaethol gyntaf! Dim ond pedair oed oeddwn. Dymuniad fy nhad oedd i mi weld un o fawrion y byd cerddorol yn y cnawd. Mi oeddwn yno'n gweld Dr Macolm Sargent yn arwain un o'r cyngherddau. Pawb ar eu traed yn curo dwylo cyn cychwyn, wrth iddo gerdded drwy'r gynulleidfa i'r llwyfan.
YsbrydoliaethYn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr, roeddwn yn aelod o gerddorfa leuenctid Aberdâr yn cystadlu. Suite o waith Bach oedd y darn prawf. Yn anffodus, ni throdd y chwaraewr ffliwt i fyny. Chwibanodd yr arweinydd, Leonard james, linell y ffliwt, drwy'r darn. Dyna ffys oedd yn y Western Mail y bore wedyn!
Yr oedd eisteddfod flynyddol i'r ieuenctid mewn bodolaeth, ond yn sgil y Genedlaethol, sefydlwyd yr Eisteddfod Gymraeg ym 1957. D.0 Roberts a'r Parchedigion Eirian Davies, Jacob Davies a Glannant Jones, pob un ag eglwys yn y cwm, a'i hysbrydolodd. 0lwen Edwards, cyfnither i mi, sydd yn gwasanaethu hyd heddiw fel organyddes eglwys Bethel, Abernant oedd yr Ysgrifenyddes.
Am gythraul y canu nid oedd gwell nag Eisteddfod y Pensiynwyr yn y Coliseum, Trecynon. Cystadleuaeth. flynyddol rhwng y tenor Cynonlais Davies ar baswr Wil John Rowlands o Lwydcoed ar yr Her Unawd.
Cofiaf naw o gorau yn cystadlu gan gynnwys Wattstown, Ynyshir, Dowlais, Cwmaman, heb son am Abernant, dan yr arweinydd Tom Morgan. Fe barchwyd ef yn Abernant yn fwy hyd yn oed na'r chwaraewr rygbi enwog Teddy Morgan a oedd a'l gartref yn y ty nesaf Yr oedd hawl gan bob cor 1 helaethu gan gynnwys ychydig o leisiau ifancach, dim mwy na deg y cant.
Wedi igor Dowlais ennill, esbonliad y Ileill oedd bod ganddynt ormod o leislau ifanc yn eu plith. "Dy' ni ddim am ennill drwy dorrir rheolau!" Dyna 1 chwi arwyddair teilwng i Eisteddfod, ynte?